English icon English
Sport Pembrokeshire Awards Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro

Nominations open for Sport Pembrokeshire Awards

Ar ôl haf gwych o chwaraeon, mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer dathliad Sir Benfro o’i chyflawniadau chwaraeon.

Bydd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024 yn cael eu cynnal yn Fferm Folly ddydd Gwener 29 Tachwedd ac mae enwebiadau ar gyfer y 13 categori o wobrau yn agor heddiw (Dydd Llun 9 Medi).

Mae'r categorïau'n cydnabod cyflawniadau chwaraeon unigolion a thimau ac ymroddiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr mewn chwaraeon cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Trigolion, fod panel beirniadu Chwaraeon Sir Benfro wedi derbyn y mwyaf o enwebiadau erioed dros y blynyddoedd diwethaf a'i fod yn gobeithio y byddai hynny'n parhau.

“Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o enwebiadau ym mhob categori yn y gwobrau diweddar. Mae hyn yn dangos y nifer enfawr o bobl o bob oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn Sir Benfro ac yn eu mwynhau.

“Mae Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro wastad wedi bod yn gyfle i ddathlu llwyddiant chwaraeon yn ogystal â diolch i'r rheini, yn enwedig y gwirfoddolwyr, sy'n hanfodol ar gyfer chwaraeon llawr gwlad."

“Cyflwynwch eich enwebiadau cyn gynted â phosibl.”

Mae'r enwebiadau yn cau ar 13 Hydref.

Diolch unwaith eto i noddwyr y Gwobrau, Valero, Pure West Radio a Fferm Folly am sicrhau y gall dathlu chwaraeon Sir Benfro barhau.

Mae'r categorïau gwobrau fel a ganlyn:

  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Gorchest Chwaraeon i Fenywod
  • Gorchest Chwaraeon i Ddynion
  • Gorchest Chwaraeon i Fechgyn (Dan 16)
  • Gorchest Chwaraeon i Ferched (Dan 16)
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (Dan 16)
  • Arwr Tawel
  • Trefnydd Clwb y Flwyddyn
  • Gorchest Tîm y Flwyddyn
  • Gorchest Tîm Iau y Flwyddyn (Dan 16)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Clwb y Flwyddyn
  • Llwyddiant Oes

Gwobr ychwanegol a gyhoeddir ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n galed iawn i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol, ac yn arloesol – ac yn meithrin cysylltiadau cryf gyda'r gymuned leol.

Nodiadau i olygyddion

Enillydd gwobr Chwaraeon Anabledd y llynedd, Bleddyn Gibbs.