English icon English
Bocs pleidleisio ar fwrdd gyda'r geiriau sefyllfa bleidleisio wedi'u hysgrifennu yn Saesneg a Chymraeg.

Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol yn agor

Nominations for General Election candidates open

Mae'r hysbysiad etholiad wedi ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Penfro ddydd Llun, 3 Mehefin.

Mae gan unrhyw un sy'n bwriadu sefyll yn Etholiad Cyffredinol mis Gorffennaf dros Ganolbarth a De Sir Benfro tan 7 Mehefin i gyflwyno enwebiad.

Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol yn Uned 23, Ystad Ddiwydiannol Thornton, Aberdaugleddau rhwng 3 Mehefin a 7 Mehefin, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 4pm.

Rhaid dychwelyd y papurau erbyn 4pm ddydd Gwener, 7 Mehefin fan bellaf, drwy apwyntiad, i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) William Bramble yn Neuadd y Sir.

Gellir gwneud apwyntiadau drwy e-bost i Returningofficer@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio 01437 775714.

Gellir talu'r blaendal o £500 gydag arian parod, neu drwy ddrafft banc (banciau sy'n gweithredu yn y DU yn unig), neu drwy daliad electronig, cerdyn credyd neu ddebyd.

Os bydd mwy nag un ymgeisydd yn yr etholiad, cynhelir y bleidlais ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.