English icon English
Grŵp o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd gyda'u capsiwl amser i'w gladdu yn Western Quayside.

Dathlu dyfodol cyffrous i bobl ifanc Hwlffordd mewn prosiect adfywio yn y dref

Exciting future for Haverfordwest young people celebrated at town regeneration project

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Hwlffordd wedi gadael rhodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng nghynllun adfywio Cei’r Gorllewin yn y dref.

Llenwodd myfyrwyr Blwyddyn 7 gapsiwl amser ag eitemau i ddangos sut fywyd sydd ganddynt yn 2023 cyn i grŵp ddod draw i’r hen siop Ocky White i’w gladdu ar y safle.

Roedd y prosiect capsiwl amser, dal arweiniad contractwyr y datblygiad John Weaver (Contractors) Ltd, yn caniatáu i’r dysgwyr ganolbwyntio ar eu tref yn ogystal  â’r pethau archeolegol a ddatgelwyd yn ystod y gwaith adeiladu.

Dywedodd Victoria Hooper, Athrawes y Dyniaethau yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd: “Roedd disgyblion yn Ysgol uwchradd Hwlffordd yn teimlo ei bod yn anrhydedd i wneud hanes yn rhan o’r prosiect capsiwl amser.

“Gwnaethon nhw fwynhau trafod syniadau, ysgrifennu am fywyd a digwyddiadau yn 2023 a llenwi’r capsiwl amser gyda lluniau, darnau arian, stamp, tei ysgol a hyd yn oed hen ffôn symudol.”

IMG-5686

Dywedodd Anthony Hayward, Rheolwr y Tîm Adeiladu yng Nghyngor Sir Benfro: “Mae Cyngor Sir Benfro yn hynod falch o fod wedi cefnogi’r prosiect capsiwl amser ynghyd â’r contractwyr, John Weaver, yn natblygiad gweddnewidiol Cei’r Gorllewin yn Hwlffordd a croesawodd mewnbwn brwdfrydig y disgyblion a aeth ati i gyfrannu fel grŵp i gladdu’r capsiwl ar y safle.”

Oherwydd pwysigrwydd hanesyddol safle’r datblygiad a chanfyddiadau archeolegol cytunwyd y byddai claddu capsiwl amser yn ffordd briodol o greu cysylltiad â dyfodol yr ardal.   

Aeth Haydyn Boyce, Rheolwr Prosiect y contractwyr, John Weaver, â’r myfyrwyr ar daith o amgylch y safle, sydd i’w drosglwyddo tua diwedd mis Medi. 

Dangosodd iddynt dair lefel yr adeilad a rhoddodd gipolwg iddynt ar heriau’r prosiect adeiladu a sut y goresgynnwyd y rhain drwy weithio’n agos gyda’r cyngor a’r tîm dylunio.

4-4

Mae Joan Tamlyn, Rheolwr Datblygu Busnes y contractwyr, John Weaver, wedi bod yn gweithio gyda Mrs Hooper a’i dosbarth ers mis Ionawr wrth iddynt ddatblygu syniadau ar gyfer y prosiect capsiwl amser.

“Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld pa mor frwdfrydig a chyffrous y mae’r disgyblion wedi bod a bu’n bleser i’w weld. Maen nhw wedi cael syniadau gwych ar gyfer y prosiect capsiwl amser, ac mae wedi rhoi boddhad i mi i ddangos iddyn nhw y gwaith adeiladu yn y datblygiad anhygoel hwn yn eu tref,” dywedodd.  

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae’n wych gweld y gwaith yn dod ei flaen yn dda yng Nghei’r Gorllewin ac i bobl ifanc Ysgol Uwchradd Hwlffordd gael cyfle i gymryd rhan yn adfywiad y dref, fydd o fudd iddyn nhw yn y dyfodol hefyd.”