English icon English
fflecsi bus

Lansio ehangiad fflecsi Sir Benfro yr haf hwn

fflecsi Pembrokeshire expansion to launch this summer

Bydd parth bws fflecsi newydd sy'n cynnwys Dinbych-y-pysgod yn cael ei lansio mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Penfro. 

Yn ogystal â chwmpasu cyrchfannau poblogaidd Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, bydd y parth trafnidiaeth newydd, sy'n ymateb i'r galw, yn gwasanaethu cymunedau mewndirol cyn belled â Phenfro a Doc Penfro.

Bydd y parth yn disodli'r gwasanaethau llinell sefydlog presennol, 360 a 361, rhwng Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro, gan ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy a defnyddiadwy i gymunedau heb wasanaeth bws rheolaidd, yn ogystal â chysylltu â gorsafoedd rheilffordd.

Mae'r Cyngor wedi derbyn £180,000 o gyllid grant gan Gronfa Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru i gefnogi'r ehangiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae dyfarnu cyllid grant i alluogi ehangu gwasanaethau fflecsi Sir Benfro yn newyddion gwych i drigolion ac ymwelwyr.

"Mae'r ddarpariaeth bresennol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth agor y gwasanaeth i ardal ehangach a darparu mwy o opsiynau teithio i deithwyr.

"Bydd fflecsi hefyd yn galluogi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ddydd Sadwrn sydd heb fod ar gael mewn sawl ardal ers peth amser."

Bydd parth Penrhyn Dale sydd newydd ei gyflwyno yn cael ei ehangu tua'r dwyrain y tu hwnt i Aberdaugleddau, gan ddisodli rhai o'r teithiau ar y gwasanaeth llinell sefydlog 308 sy'n cwmpasu Burton, Llangwm, Hook, Freystrop, Rosemarket a Merlin's Bridge.

Bydd teithiau cyntaf ac olaf 308 yn parhau i alluogi myfyrwyr Coleg a chymudwyr i barhau i deithio heb fod angen archebu lle.

Mae'r parth fflecsi presennol wedi gweld twf sylweddol mewn teithwyr ers iddo ddisodli'r gwasanaeth llinell sefydlog 315 yn gynharach eleni.

Bydd parth diwygiedig Bwcabus fflecsi yn ymestyn i gwmpasu Crymych, Llandysilio a Chlunderwen, gan ddarparu gwell cysylltiadau â'r llwybr llinell sefydlog 430 rhwng Aberteifi ac Arberth.

Bydd ardal Bwcabus a oedd gynt yn cwmpasu Hayscastle Cross, Castlemorris a Llangloffan yn cael ei gwasanaethu gan barth Gogledd-orllewin Sir Benfro.

O ddydd Llun, 24 Gorffennaf, bydd y parthau fflesci newydd ar gael unrhyw bryd rhwng 7.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Byddwch yn gallu archebu lle o ddydd Mercher, 19 Gorffennaf drwy ap fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd ac Ardaloedd Gwledig Cymru yn Trafnidiaeth Cymru: "Mae fflecsi Sir Benfro yn enghraifft wych o sut y gall trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw drawsnewid cyfleoedd trafnidiaeth i gymunedau gwledig yng Nghymru ac rwy'n falch iawn o weld y gwasanaeth yn ehangu ledled y sir.

"Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ledled Cymru a bydd y parth newydd rhwng Saundersfoot a Doc Penfro yn caniatáu i ymwelwyr sy'n teithio i'r ardal ar y trên wneud eu teithiau ymlaen gan ddefnyddio fflecsi.

“Mae parth Penrhyn Dale a gyflwynwyd yn ddiweddar yn parhau i weld mwy o dwf mewn teithwyr a bydd ei hymestyn yn galluogi mwy o gymunedau i elwa ar fwy o gysylltedd â’r rhwydwaith bysiau a threnau ehangach.”