English icon English
pwyntio at gynlluniau gyda beiros

Ffordd newydd i roi gwybod yn hawdd am achosion tybiedig o dorri rheolau cynllunio

New way to easily report suspected breaches of planning

Erbyn hyn, gall aelodau’r cyhoedd roi gwybod i Gyngor Sir Penfro am achosion tybiedig o dorri rheolau cynllunio trwy ffurflen ar-lein syml.

Mae’r ffurflen Beth os bydd rhywun wedi datblygu heb ganiatâd cynllunio? yn galluogi rhoi gwybodaeth bwysig yn uniongyrchol i Dîm Gorfodi Cynllunio’r Awdurdod.

Mae hyn yn sicrhau bod gan swyddogion y Cyngor y wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnynt i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio.

Mae’r Tîm Gorfodi Cynllunio wedi cael y gallu ychwanegol hefyd i fynd i’r afael ag achosion sydd yn y system eisoes ac yn eu caniatáu i ymchwilio i fwy o achosion.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai: “Rwy’n falch iawn bod y ffurflen hon ar gael ar-lein erbyn hyn, sy’n galluogi aelodau’r cyhoedd i roi gwybodaeth i Swyddogion y Cyngor yn rhwydd am achosion posibl o dorri rheolau cynllunio.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn cynnig ffordd syml i’r rhai sy’n poeni am achosion posibl o dorri rheolau roi’r holl wybodaeth berthnasol y bydd ei hangen ar swyddogion i ddechrau ymchwilio i’r mater.

“Bydd cyflwyno gwybodaeth drwy’r ffurflen ar-lein yn helpu Swyddogion Gorfodi Cynllunio yn fawr i gael y wybodaeth berthnasol i’w galluogi i gynnal eu hymchwiliadau cychwynnol, gan helpu i gyflymu’r broses.

“Mae cynllunio yn un o swyddogaethau hynod bwysig y Cyngor, yn enwedig mewn ardal o harddwch fel Sir Benfro, ac mae’n briodol bod gan y Tîm Gorfodi Cynllunio yr offer sydd eu hangen arno i ymchwilio’n effeithiol i achosion posibl o dorri rheolau.”

Dylid rhoi gwybod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am achosion posibl o dorri rheolau cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro