Fforwm Ieuenctid Tai a Digartrefedd yn ennill gwobr Arfer Da
Housing & Homeless Youth Forum scoops Good Practice award
Mae prosiect Cyngor Sir Penfro i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu helpu i lunio gwasanaethau tai wedi ennill Gwobr Ymarfer Da o fri.
Enillodd Fforwm Ieuenctid Tai a Digartrefedd Sir Benfro, prosiect cydweithredol rhwng gwasanaethau Ieuenctid a Thai, y categori 'Llunio neu Adolygu Gwasanaethau' yng Ngwobrau Ymarfer Da TPAS.
Nod y prosiect oedd cynnwys pobl ifanc 16-24 oed - gan gynnwys pobl nad ydynt yn denantiaid CSP - wrth lunio gwasanaethau tai drwy fforwm cynhwysol a chefnogol.
Roedd hyn yn cynnwys cynnig trafnidiaeth, rhannu prydau bwyd, a phresenoldeb gan aelodau'r Tîm Tai.
Cafodd y fforwm ei gyd-gynhyrchu â phobl ifanc, i bennu eu cylch gorchwyl eu hunain, derbyn cofnodion cyfarfod ac agendâu, a rhoi adborth ar brosesau tai a llwybrau cymorth.
Ers dechrau ym mis Tachwedd 2023, mae'r prosiect wedi gwella dealltwriaeth pobl ifanc o systemau tai, wedi datblygu syniadau prosiect hygyrch, a gwell cyfathrebu rhwng y cyngor a thenantiaid, gan gynnwys gwneud y broses ymgeisio am dai yn fwy hygyrch.
Roedd hyn yn sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth tai a digartrefedd drostynt eu hunain, yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu cartrefu ar hyn o bryd, yn cael eu hystyried wrth lunio ac adolygu gwasanaethau.
Canlyniad nodedig cyfranogiad tenantiaid yw mabwysiadu atebion ymarferol a gynigiwyd gan y Fforwm. Er enghraifft, mae cyflwyno codau QR ar ffenestri eiddo gwag, yn esbonio pam mae’r eiddo’n wag, wedi'i gymeradwyo i'w cynnwys ym mholisi newydd Cartrefi Dewisedig.
Mae'r arloesedd hwn yn gwella tryloywder ac hefyd yn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion tai.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod y Cabinet dros Dai: "Rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn yn cael ei gydnabod gyda'r wobr hon.
"Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella ymgysylltiad â'n tenantiaid ac rydyn ni wedi cael ein plesio'n fawr gan y syniadau sydd wedi'u cynhyrchu.
"Mae'n dangos gwerth cynnwys pobl ifanc ac mae eisoes wedi arwain at newid cadarnhaol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran TPAS: "Mae'r fenter hon wedi caniatáu i denantiaid ifanc roi eu barn wrth lunio gwasanaethau ar draws y sefydliad mewn meysydd fel atgyweiriadau a chwynion ymhlith eraill, gyda mwy wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol."
Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan yn y fforwm cysylltwch â youth.support.team@pembrokeshire.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
Aelodau Fforwm Ieuenctid Tai a Digartrefedd Sir Benfro, sy’n cyfarfod yn rheolaidd.