Chwilio am arlunydd tir cyhoeddus i ddylunio llwybrau newydd ar gyfer Abergwaun ac Wdig
Public realm artist sought to design new trails for Fishguard and Goodwick
Mae Cyngor Sir Penfro yn comisiynu arlunydd arweiniol i gyd-greu llwybr newydd neu gyfres o lwybrau ar gyfer gefeilldrefi Abergwaun ac Wdig.
Nod y prosiect yw cynyddu ymdeimlad o falchder mewn lle ar gyfer cymunedau lleol, yn ogystal â hyrwyddo adfywiad economaidd.
Mae’r llwybrau’n gyfle i ddathlu hanes, diwylliant a storïau arbennig yr ardal, a chreu atyniad deniadol ar gyfer pobl leol a thwristiaid yn yr un modd.
Mae’r llwybrau newydd yn ffurfio rhan o ymdrech adfywio ehangach a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i annog canol trefi bywiog, cynnal a chynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi siopau, lleihau nifer yr adeiladau gwag, creu swyddi a hyrwyddo byw yng nghanol trefi.
Dywedodd Swyddog Adfywio Datblygu’r Celfyddydau, Ruth Jones: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r gefeilldrefi. Trwy ddefnyddio sgiliau arlunydd tir cyhoeddus, gallwn ni weithio gyda’r gymuned i gyd-greu rhywbeth arloesol a dychmygus.
“Mae’r ardal yn gyfoeth o storïau rhyfeddol a digwyddiadau hanesyddol fel y Goresgyniad Olaf ym 1797, a diwydiant morol yn dyddio o gyfnod y Llychlynwyr, o leiaf. Mae hefyd yn enwog am ei hunaniaeth ddiwylliannol gref ac mae’n ardal fywiog o ran y celfyddydau a cherddoriaeth.
“Mae hyn i gyd yn gallu cael ei weu gyda’i gilydd i adrodd stori sy’n gallu cael ei chlywed trwy gerdded rhyngweithiol, gan greu ymdeimlad dyfnach o gysylltiad â lle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Gall arlunwyr sydd â phrofiad o weithio ym maes tir cyhoeddus ymgeisio am y contract trwy’r porth ar-lein, E-dendro Cymru.
Bydd yr arlunydd yn cael ei benodi erbyn diwedd mis Tachwedd 2023 trwy broses werthuso drylwyr gyda phanel sy’n cynnwys aelodau o’r tîm Adfywio Lleoedd yng Nghyngor Sir Penfro, yn ogystal ag arbenigwr allanol mewn celf gyhoeddus.
Bydd cymunedau’n cael gwahoddiad i ‘gwrdd â’r arlunydd’ trwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu sydd wedi’u trefnu ar gyfer mis Rhagfyr.
Bydd trywyddau a themâu’r llwybrau yn cael eu pennu gan y rheiny sy’n adnabod yr ardal orau, sef trigolion lleol y gefeilldrefi.
Bydd yr arlunydd yn gweithio’n agos gyda’r gymuned trwy gydol y broses i sicrhau bod y llwybrau a gwblhawyd yn gysylltiedig â phrofiad bywyd pobl Abergwaun ac Wdig.
Mae cyfle cyffrous i arlunydd sy’n gweithio yn Sir Benfro sydd â diddordeb mewn ennill profiad o arfer tir cyhoeddus ar gael, hefyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei fentora gan yr arlunydd arweiniol a benodir yn ystod y prosiect. Bydd unigolyn yn cael ei benodi i’r rôl hon â thâl trwy alwad agored ym mis Rhagfyr.
Bydd y llwybrau’n cael eu cwblhau erbyn Hydref 2024, a byddant yn cael eu lansio trwy gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus cymunedol sy’n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu’r penrhyn unigryw hwn.
- Gall arlunwyr sydd â phrofiad o waith tir cyhoeddus ymgeisio am y contract trwy’r porth ar-lein E-dendro Cymru.