English icon English
Digwyddiad galw heibio busnes yn BIC gyda llawer o bobl yn sefyll o gwmpas

Hwb cyllid ar gael i entrepreneuriaid busnes ifanc Sir Benfro

Funding boost on offer for Pembrokeshire’s young business entrepreneurs

Mae’r Gronfa Menter Ieuenctid a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnig hwb i fusnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan bobl 21 oed ac iau.

Mae entrepreneuriaid ifanc Sir Benfro a’u hegin fusnesau’n cael cynnig help llaw gan wasanaeth newydd y cyngor, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Alex Evans yw Swyddog Datblygu Economaidd newydd Menter Ieuenctid Cyngor Sir Penfro. Rôl Alex yw hyrwyddo cyllid newydd a chynorthwyo pobl i ymgeisio a dod o hyd i gymorth busnes arall.

Nod Cronfa Menter Ieuenctid Busnes Sir Benfro yw cynorthwyo ymgeiswyr 16 i 21 oed i greu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi, ac felly gwella’r economi leol.

Dywedodd Alex: “Mae’r gronfa fenter yn gyfle gwych i bobl ifanc leol sy’n bwriadu lansio eu busnes eu hunain. Gallwn hefyd gynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai sy’n cymryd y cam cyffrous, ond weithiau brawychus, i ddechrau menter newydd.”

Cynllun grant busnes yw’r Gronfa, sy’n cynnwys cymorth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol lle mae swyddi newydd yn cael eu creu.

Mae grantiau o rhwng £250 a £1,000 ar gael, a bydd pob dyfarniad yn cael ei seilio ar 50% o gostau cymwys.

Mae grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol, felly mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr fodd o brynu’r eitem(au) yn llawn o flaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Penfro.

Mae’r grant yn berthnasol i fusnesau cyn-gychwyn yn unig (rhai nad ydynt yn masnachu eto).

Mae rhagor o fanylion am gymhwysedd ar gyfer Grant Menter Ieuenctid ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro (yn agor mewn ffenestr newydd). 

Gallwch hefyd anfon neges e-bost at Alex.Evans@Pembrokeshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Ffyniant bro glas dwyieithog
Ariennir gan UK Gov dwyieithog