English icon English
Gorsaf Bleidleisio Polling station Gorsaf Bleidleisio Polling station

Galw Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Police and Crime Commissioner Election called

Mae cyfnod etholiad swyddogol ar gyfer swyddi'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr bellach wedi dechrau.

Cynhelir etholiadau ar 2 Mai ac yn Sir Benfro bydd y bleidlais ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu nesaf ar gyfer Dyfed Powys.

Rôl y Comisiynydd yw cyflawni gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon a gostwng troseddau yn eu hardaloedd heddlu.

Maent yn cael eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn Prif Gwnstabliaid a'r heddlu i gyfrif ar eu rhan.

Gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw gosod cyllideb yr heddlu a sicrhau ei bod yn cael ei gwario'n effeithiol, penodi Prif Gwnstabliaid yr heddlu lleol, gosod cynlluniau heddlu a throseddu mewn cydweithrediad â thrigolion a gweithio'n agos gyda'r cyngor lleol a sefydliadau eraill ar y cynlluniau hyn. 

Sut byddwch chi'n pleidleisio yn yr etholiadau ar 2 Mai - yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy? Gallwch fwrw eich pleidlais sut bynnag sydd orau gennych chi. Gallwch wneud cais am bleidlais drwy’r post erbyn 17 Ebrill, neu am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 24 Ebrill.

Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 16 Ebrill.

Hwn fydd yr etholiad cyntaf yng Nghymru fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob pleidleisiwr fod â phrawf adnabod ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae mwy am y mathau o brawf adnabod derbyniol ar wefan y Comisiwn Etholiadol, lle mae manylion hefyd am sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr erbyn 24 Ebrill os nad oes gennych brawf adnabod.

Bydd Cardiau Pleidleisio o fath newydd yn cael eu hanfon at breswylwyr yr wythnos hon a byddant yn llythyr A4 mewn amlen, nid y cerdyn A5 arferol.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau Will Bramble: "Byddwn yn annog holl drigolion Sir Benfro i wirio eu bod wedi cofrestru i bleidleisio ac i sicrhau bod eu llais democrataidd yn cael ei glywed ar 2 Mai."

DPP Police and Crime