Galw isetholiad y Cyngor Sir ar gyfer ward Hwlffordd: Prendergast
County Council by-election called for Haverfordwest Prendergast ward
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal i lenwi sedd wag yn ward Hwlffordd: Prendergast.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Etholiad ar 6 Ionawr. Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno sefyll etholiad gyflwyno eu papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau rhwng 7 a 15 Ionawr, rhwng 10am a 4pm.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael papurau enwebu e-bostiwch electoralservices@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch y llinell gymorth etholiadau 01437 775844.
Bydd y Datganiad am y Sawl a Enwebwyd yn cael ei gyhoeddi ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben. Os bydd yn cael ei herio, bydd pleidlais yr isetholiad yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 11 Chwefror.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynghorydd mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Gwasanaethau Democrataidd gwefan y Cyngor.
Mae manylion am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro. Bydd angen i unrhyw un yn ward Prendergast nad yw wedi cofrestru i bleidleisio wneud hynny erbyn 24 Ionawr i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i fynd iddi.
Ni fydd yn rhaid dangos prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.