English icon English
Dwylo cartŵn gyda beiro, cyfrifiannell a phapur gyda blociau lliw

Gofyn am farn trigolion ar gynlluniau cyllideb y Cyngor sydd i ddod

Residents’ views wanted on Council’s upcoming budget plans

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb Cyngor Sir Penfro ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn dal ar agor.

Mae trigolion yn cael eu hannog i gymryd rhan a dweud eu dweud ar fantoli'r gyllideb yn 2024-25.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, y Cynghorydd Alec Cormack: "Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed gan gynifer o bobl yn Sir Benfro â phosibl," meddai.

"Fel Cynghorau eraill, rydym unwaith eto yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol ac mae deall blaenoriaethau cymunedol ac aelwydydd yn hanfodol i'n helpu i wneud y dewisiadau anodd sy'n angenrheidiol wrth bennu cyllideb 2024-25.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych."

Amcangyfrifir bod y bwlch cyllido ar gyfer 2024-25 yn £27.1 miliwn, ac mae potensial iddo gynyddu ymhellach.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys amrywiaeth o gynigion ar newidiadau i wasanaethau, ffioedd a thaliadau a’r Dreth Gyngor.

Mae Adnodd Modelu Cyllideb hefyd ar gael i ddangos gwahanol opsiynau a chanlyniadau sy'n ymwneud â'r cynigion hyn.

I gael gwybod mwy ac i roi eich barn, ewch i'r dudalen Dweud Eich Dweud ar wefan Cyngor Sir Penfro cyn dydd Mercher 3 Ionawr 2024.