English icon English
tu mewn i siambr y cyngor

Gohirio trafodaeth cyllideb Cyngor Sir Penfro

Pembrokeshire County Council budget discussion adjourned

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio i ohirio eu penderfyniad ar y gyllideb i gyfarfod yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddiad llawn am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol.

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn heddiw (20 Chwefror) cytunwyd ailymgynnull i osod y gyllideb ar gyfer 2025-26 ar 6 Mawrth.

Mae'n ofyniad statudol i Awdurdodau Lleol gytuno ar gyllideb fantoledig cyn 11 Mawrth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Effeithlonrwydd a Chyllid Corfforaethol, y Cynghorydd Joshua Beynon: "Rwyf yn ymroddedig i sicrhau ein bod yn gweithio ar draws siambr y cyngor i ddarparu cyllideb cyn y dyddiad cau cyfreithiol."