Grant gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu cynlluniau hwb gofal cymdeithasol
Multi-million pound grant advances social care hub plans
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £6.5 miliwn ychwanegol i Gyngor Sir Penfro tuag at gost adeiladu'r hwb iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd ym Mhenfro.
Mae'r grant wedi'i ddyfarnu drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y cynlluniau sydd ar y gweill ym mhrosiect adfywio Hwb Penfro yng Nghei’r De.
Bydd Hwb Penfro yn ganolfan gofal cymdeithasol, iechyd a chymunedol modern a hygyrch ac mae'n cefnogi nod y rhanbarth i adeiladu cymunedau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol wrth i ni symud i ffwrdd o reoli'r angen i greu gallu.
Gan ddefnyddio dull gwasanaeth integredig, bydd yr Hwb yn darparu dull aml-genhedlaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion a chryfderau unigolion.
Roedd y prosiect eisoes wedi derbyn £4.1 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro y DU gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i Benfro i £10.6 miliwn, gyda Chyngor Sir Penfro yn darparu'r cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiect.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Tessa Hodgeson: "Rwy'n falch iawn bod de Sir Benfro ac iechyd a gofal cymdeithasol yn elwa o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y datblygiad yn welliant sylweddol o ran mynediad at gymorth i gymunedau lleol.”
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, a'r Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Paul Miller mai'r llwyddiant wrth sicrhau'r grant yw'r cam olaf wrth fynd i'r afael ag adfywio adfail amlwg iawn yng nghanol tref Penfro.
“Mae hyn yn dod â'n darpariaeth gwasanaeth i graidd canol y dref, gan gefnogi nifer yr ymwelwyr sy'n cael eu croesawu i Benfro ac yn dilyn polisi Canol Trefi yn Gyntaf Llywodraeth Cymru," ychwanegodd.
Mae datblygu'r prosiect wedi bod yn bartneriaeth rhwng timau adfywio, gofal cymdeithasol ac adeiladu proffesiynol Cyngor Sir Penfro gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r trydydd sector.
Dywedodd Michael Gray, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd: "Mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn o glywed bod buddsoddiad cyfalaf ar gyfer Hwb Cymunedol Cei’r De wedi'i sicrhau. Bydd hyn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n gwaith o ddarparu lleoliad iechyd a gofal integredig sydd wedi'i gydleoli yn y Sir; un sy'n seiliedig ar fodel cymdeithasol o iechyd a lles sy'n adeiladu ar ein model cyflogaeth â chymorth sydd eisoes yn llwyddiannus.
“Dim ond drwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach y gwneir datblygiad Cei’r De yn bosibl, ac mae'n dangos ymrwymiad clir i weledigaeth graidd y Cyngor sef 'gweithio gyda'n gilydd, gwella bywydau.’”
Ychwanegodd Sonia Hay, Cyfarwyddwr Sir Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym wrthi'n gweithio tuag at integreiddio gwasanaethau iechyd, gofal a chymunedol yn Sir Benfro. Mae Hwb Penfro yn cynrychioli cynnydd sylweddol yn yr uchelgais hwn gan ddarparu cyfleuster modern sydd o fudd i'r gymuned yn Ne Sir Benfro.”
Nododd Rachel Moxey, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio, ei bod wrth ei bodd bod costau'r prosiect bellach yn cael eu hariannu'n llawn ac mae'r gwaith contract i ddod â'r adeilad yn ôl i ddefnydd buddiol bellach wedi dechrau ar y safle.