Gwasanaethau bysiau arfordirol yn dychwelyd ar gyfer yr haf
All aboard for return of summer coastal bus services
Bydd dau wasanaeth bysiau poblogaidd yn dychwelyd i arfordir Sir Benfro o ddydd Sadwrn, 25 Mai.
-
- Mae’r Pâl Gwibio (gwasanaeth 400, a weithredir gan y Brodyr Richards) yn rhedeg rhwng Tyddewi a Marloes, ac yn stopio yn Little Haven, Druidston, Sain Ffraid a Martins Haven (ar gyfer teithiau mewn cwch i Ynys Sgomer).
- Mae Gwibiwr Strwmbl (gwasanaeth 404, a weithredir gan y Brodyr Richards) yn rhedeg ar hyd yr arfordir rhwng Tyddewi ac Abergwaun, gan stopio yn Abereiddi (ar gyfer y Morlyn Glas), Porthgain a Phen-caer.
Mae Gwibfws yr Arfordir (gwasanaeth 387/388, a weithredir gan Gyngor Sir Penfro) o amgylch penrhyn Angle yn dychwelyd i’w amserlen haf ar 25 Mai.
Bydd y tri gwasanaeth yn rhedeg yn ddyddiol o ddydd Sadwrn 25 Mai tan ddydd Sul 29 Medi 2024.
Yn ogystal, bydd y Gwibiwr Celtaidd (gwasanaeth 403, a weithredir gan Sarah Bell) o amgylch penrhyn Tyddewi, yn rhedeg amserlen fwy rheolaidd (bob hanner awr) yn ystod hanner tymor (dydd Sadwrn 25 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin) a thrwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst.
Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu datblygu gan Bartneriaeth Lonydd Glas Sir Benfro gydag arian gan Gyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae ein bysiau arfordirol yn rhan allweddol o’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol, ac maen nhw’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl leol ac ymwelwyr deithio o amgylch arfordir Sir Benfro heb orfod defnyddio car.
“Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ac yn manteisio ar ffordd ddidrafferth o fwynhau ein sir brydferth.”
Bydd gwasanaethau ychwanegol ar gael yn ardal Dinbych-y-pysgod yr haf hwn hefyd.
- Bydd Gwibiwr Dinbych-y-pysgod First Cymru, bws deulawr to agored rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot yn dychwelyd, bob dydd, rhwng dydd Sadwrn 26 Mai a dydd Sadwrn 14 Medi 2024.
- Bydd Bysiau Cwm Taf yn cyflwyno teithiau ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth 351 o Gilgeti a Dinbych-y-pysgod o ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf i ddydd Gwener 13 Medi, gan gynnwys taith ddwyffordd ar ddydd Sul.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a gwasanaethau bysiau eraill sy’n rhedeg i Arfordir Sir Benfro ac o’i amgylch yn y llyfryn newydd o amserlenni bysiau arfordirol 2024, a fydd ar gael yn fuan o lyfrgelloedd a chanolfannau gwybodaeth lleol.
I ofyn am gopi, cysylltwch â public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551.
Gellir lawrlwytho amserlenni bysiau hefyd o wefan y Cyngor.