Dweud Eich Dweud ar ddosbarthiadau etholiadol, mannau a gorsafoedd pleidleisio yn Sir Benfro
Have Your Say on Pembrokeshire’s polling districts, places and stations
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnal adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio, gan ddechrau ar 9 Hydref.
Mae’r Awdurdod Lleol yn awyddus i glywed beth yw barn etholwyr am hwylustod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau, a byddai’n croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) ar gyfer etholaethau Seneddol blaenorol Preseli Penfro, a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (De Sir Benfro), ac etholaethau Seneddol newydd Ceredigion Preseli (Preseli), a Chanolbarth a De Sir Benfro, yn rhoi sylwadau ar y cynigion.
Gofynnir hefyd am farn preswylwyr ar y sylwadau hyn, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac a fydd ar gael i’w harchwilio.
Yn ogystal, byddai’r Cyngor yn croesawu barn yr holl breswylwyr, yn enwedig preswylwyr anabl, neu unrhyw berson neu gorff ag arbenigedd mewn mynediad i bobl ag unrhyw fath o anabledd.
Dylai unrhyw un sy’n cyflwyno sylwadau gynnig mannau eraill y gellir eu defnyddio fel mannau pleidleisio, os yw hynny’n bosibl.
Mae’r wybodaeth perthnasol ar gyfer y trefniadau presennol a’r cynigion ar gyfer newidiadau i’w gweld ar dudalen Dweud Eich Dweud y Cyngor, neu gellir eu harchwilio yn: Gwasanaethau Etholiadol, Uned 23, Stad Ddiwydiannol Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RR.
Gallwch ychwanegu eich sylwadau drwy ffurflen adborth ar-lein, neu wrth anfon neges e-bost at gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk gyda’r ffurflen adborth wed’i chwblhau, neu drwy’r post at gyfeiriad y Gwasanaethau Etholiadol uchod.
Rhaid cyflwyno pob sylw erbyn 1 Rhagfyr 2023 fan bellaf.
Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor ym mis Mawrth 2024 a bydd ar gael i’w archwilio.
Dylai unrhyw un sy’n cyflwyno sylwadau fod yn ymwybodol bod yn rhaid cyhoeddi hefyd yr holl ohebiaeth a sylwadau a dderbynnir, yn ôl y gyfraith, ar ôl cwblhau’r adolygiad.