Hawliau pleidleisio i bobl ifanc yn cael eu hamlygu gyda thaith addysg
Voting rights for young people highlighted with education tour
Helpwyd i godi ymwybyddiaeth o hawliau democrataidd pobl ifanc – gan gynnwys hawl pobl 16 ac 17 oed i bleidleisio yn etholiad y Senedd sydd ar ddod – trwy gyfrwng cyfres o ymweliadau ag ysgolion uwchradd ledled Sir Benfro.
Cyflwynwyd y daith o amgylch yr ysgolion ar y cyd gan Dîm Addysg Allgymorth y Senedd, Swyddfa Hawliau Plant Sir Benfro a Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Penfro, gan gyfuno arbenigedd mewn addysg ddemocrataidd a hawliau plant.
Gyda’i gilydd, mae’r timau’n arwain gweithdai rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i helpu pleidleiswyr tro cyntaf i ddeall sut y gall eu lleisiau lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Fel rhan o’r gweithdai, bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn etholiadau ffug, gan roi profiad ymarferol iddynt o’r broses bleidleisio. Bwriad y gweithgareddau hyn oedd dod â’r profiad o bleidleisio yn fyw, gan helpu pobl ifanc i feithrin hyder a dealltwriaeth ymarferol o sut mae etholiadau’n gweithio cyn iddynt fwrw eu pleidlais go iawn gyntaf.
Roedd y gweithdai hefyd yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gofrestru i bleidleisio.
Dywedodd Nadine Farmer, y Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc: “Mae pobl ifanc yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol Cymru. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â myfyrwyr yn Sir Benfro, rydym yn gobeithio ysbrydoli hyder, sbarduno chwilfrydedd, a sicrhau bod pob pleidleisiwr newydd gymwys yn deall effaith eu llais.”
Bydd gan ysgolion a cholegau a gymerodd ran yn y daith fynediad hefyd at adnoddau addysgol diddorol, sesiynau holi ac ateb, a chymorth parhaus gan y Tîm Addysg Allgymorth, Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Penfro a Swyddfa Hawliau Plant Sir Benfro.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nadine.farmer@pembrokeshire.gov.uk