English icon English
Llun hen Waverley yn Dinbych y Pysgod yn y 80s

Stemar olwyn hanesyddol yn dychwelyd i lannau Sir Benfro

Historic paddle steamer returns to Pembrokeshire shores

Ym mis Mehefin, bydd stemar olwyn mordeithiol olaf y byd yn dychwelyd i Sir Benfro a bydd yn angori am y tro cyntaf yn Ninbych-y-pysgod ers dros 30 mlynedd.

Bydd hwyliadau'r Waverley yr haf hwn yn cynnwys ymweliadau â Sir Benfro ar 17 ac 18 Mehefin, gyda mordeithiau o amgylch arfordir y de, Ynys Bŷr, Pen Sant Gofan a Ynys Sgogwm, Sgomer ac Ynysoedd Ramsey wedi cael eu trefnu.

Rhoddwyd y stemar olwyn, a lansiwyd ym 1947, am £1 i'r Paddle Steamer Preservation Society ym 1974 ac mae'n eiddo i elusen gofrestredig Waverley Steam Navigation Co. Ltd, ac yn cael ei gynnal ar ei ran.

Enwyd Waverley ar ôl nofelau Waverley Syr Walter Scott ac fe'i hadeiladwyd i ddisodli’r Waverley o 1899 a suddwyd gan weithredoedd gelyn ar 29 Mai 1940 yn Dunkirk.

Mae'r hwyliadau'n gyfle unigryw i brofi agerlong go iawn wrth weld hyfrydwch ein tirwedd arfordirol.

Teithiodd dros 100,000 o bobl ar y môr ar y Waverley y llynedd, ac mae'r incwm a gynhyrchir o’r hwyliadau yn cyfrannu at gadw'r llong mewn cyflwr mordeithiol, ynghyd â chodi arian a grantiau.

Eleni, mae cynnydd mewn costau tanwydd wedi arwain at ymgyrch codi arian ychwanegol i godi £200,000 pellach.

Mae'r Waverley wedi ailymweld ag Aberdaugleddau dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr haf hwn, bydd yn dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod, lle bu nifer o drigolion dros y blynyddoedd yn mwynhau teithiau drwy Fôr Hafren i arfordir de Lloegr.

Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall: "Bydd hyn yn dod ag atgofion i lawer o bobl leol yn Ninbych-y-pysgod ac mae'n atyniad arall eto i'n tref hyfryd. Roedd wastad yn atyniad enfawr yn y blynyddoedd a fu a bydd gan lawer o deuluoedd atgofion melys o fynd i Ilfracombe a theithiau lleol.

"Mae nifer o bobl yn gyffrous iawn i weld y Waverley yn dychwelyd i'r harbwr a bydd yn siŵr o gael croeso mawr."

Gyda lle i 600 o bobl, bydd mewnlifiad mawr o ymwelwyr ar ddyddiadau hwylio a bydd trefniadau parcio yn cael eu hadolygu.

Bydd angen i holl ddefnyddwyr yr Harbwr gadw’n ddigon pell oddi wrth y llong wrth iddi gyrraedd a gadael oherwydd ei gallu cyfyngedig i symud.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Rwy'n siŵr y bydd Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod yn croesawu'r Waverley yn ôl i Sir Benfro a'r cyfle unigryw y mae'n ei gynnig i weld yr arfordir o bersbectif gwahanol.

"Rwy'n cofio mynd â fy nheulu ar y daith i Sgomer ac Ynys Sgogwm a aeth o Aberdaugleddau flynyddoedd yn ôl ac fe gawson ni amser gwych ac rydw i wir yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod, nid yn unig ar gyfer y tripiau, ond hefyd i gael golwg ar y llong anhygoel hon."