English icon English
Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd

Hyrwyddo chwaraeon yn Sir Benfro – cwrdd â’r Llysgenhadon Ifanc Efydd!

Championing sport in Pembrokeshire – meet the Bronze Young Ambassadors!

Bu cenhedlaeth newydd o fodelau rôl ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Sir Benfro yn cyfarfod yn ddiweddar i rannu syniadau a gwrando ar straeon ysbrydoledig llysgenhadon hŷn.

Mynychwyd y gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd gan dros 80 o blant ym mlynyddoedd pump a chwech.

Roedd y gynhadledd, a drefnwyd gan Chwaraeon Sir Benfro, yn cynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf, hyfforddiant platfformau digidol, a sgyrsiau ysgogol ac addysgiadol.

Dywedodd Rominy Colville o Chwaraeon Sir Benfro fod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn nodi pobl ifanc sy’n gallu bod yn fodelau rôl ac yn hyrwyddwyr ar gyfer addysg gorfforol, chwaraeon mewn ysgolion, a gweithgarwch corfforol.

“Mae’n bwysig iawn annog plant a phobl ifanc i fod yn egnïol a rhoi cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon a gemau,” meddai.

“Mae’r Llysgenhadon Ifanc yn chwarae rhan bwysig dros ben yn hyn, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu gwaith.”

Roedd 11 o Lysgenhadon Ifanc Arian ac Aur o Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd hefyd yn bresennol i weithredu fel mentoriaid ar gyfer y disgyblion iau. Roedden nhw’n cynnwys Libi Phillips a Carys Ribbon, a siaradodd am eu teithiau ar y llwybr Llysgenhadon Ifanc.

Siaradodd Chloe Jordan o’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid am bwysigrwydd rôl y Llysgenhadon Ifanc i ysbrydoli, arwain a dylanwadu ar eraill, ac ymunodd Bleddyn Gibbs (Enillydd Medal Aur mewn Codi Pŵer yng Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd) â’r digwyddiad ar gyfer y seremoni gloi.

Dywedodd Rominy eu bod wedi cael adborth gwych.

“Roedd sylwadau’r cyfranogwyr yn pwysleisio cymaint roedden nhw wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol fel boccia, ac maen nhw’n edrych ymlaen at rannu eu syniadau a helpu disgyblion iau i ddod yn fwy egnïol yn eu hysgolion,” dywedodd.

“Diolch i bawb a gyfrannodd at gynhadledd wych – ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi’r Llysgenhadon Ifanc Efydd wrth iddyn nhw symud ymlaen yn ystod y flwyddyn.”

Pennawd

Llun o’r Llysgenhadon Ifanc Efydd yn y gynhadledd a gynhaliwyd yn Archifdy Sir Benfro yn Hwlffordd.