Galwad olaf am grantiau busnes pysgota
Last call for fishing business grants
Mae arian ar gael o hyd i gefnogi busnesau pysgota ond mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ddiwedd y mis.
Mae cymorth grant ar gael o dan raglen Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014-2020 i gyfrannu at hybu arferion cystadleuol, amgylcheddol gynaliadwy, hyfyw yn economaidd a chymdeithasol gyfrifol.
Anogir busnesau pysgota Sir Benfro i wneud cais drwy Lywodraeth Cymru i gael gafael ar arian posibl i wella gwerth neu ansawdd y pysgod sy'n cael eu dal, er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiad o ostyngiad mewn prisiau marchnad.
Mae rhestr o eitemau buddsoddi cymwys sy'n gysylltiedig â phrosesu, marchnata a gwerthu dalfeydd yn uniongyrchol, gwelliannau i ansawdd cynnyrch pysgodfeydd a buddsoddiadau fydd yn caniatáu i ymgeisydd ddefnyddio eu dalfeydd diangen eu hunain.
Mae'n cynnwys offer fel biniau iâ slwtsh, oergelloedd arddangos, offer pen bwrdd ar gyfer cochi pysgod, cloriannau, ystafelloedd rhewi a systemau tanciau.
Mae'r rhestr lawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, lle gellir cael rhagor o wybodaeth am wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2023.