English icon English
Group stood outside reopened Dramway at Wisemans Bridge

Llwybr Arfordirol Wisemans Bridge yn ailagor

Wisemans Bridge coastal path reopens

Mae'r darn o lwybr arfordir Sir Benfro, a gafodd ei daro gan dirlithriadau, rhwng Wisemans Bridge a Coppet Hall, wedi ailagor.

Cafwyd ‘cwymp creigiau sylweddol’ ar lwybr yr arfordir rhwng Wiseman's Bridge a Coppet Hall/Saundersfoot, sy’n cael ei alw y Dramffordd, ddiwedd y llynedd ac eleni.

Digwyddodd cwymp mawr fis Ionawr ym mhen Coppet Hall y rhan hon o'r llwybr, tra bod y tirlithriad ym mis Tachwedd yn agosach at ben Wisemans Bridge y llwybr.

Digwyddodd trydydd tirlithriad mwy diweddar ar y llwybr hefyd.

Comisiynodd Cyngor Sir Penfro waith i sefydlogi'r clogwyni a'r twneli er mwyn galluogi'r llwybr i ailagor.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Roedd hwn yn gwymp sylweddol ac felly hoffwn ddiolch i'r timau sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y llwybr yn cael ei ailagor er mwyn i gymunedau ac ymwelwyr ei fwynhau."

Ychwanegodd y cynghorydd lleol, Alec Cormack: "Mae tîm y Cyngor wedi gwneud gwaith gwych ar y prosiect hwn - mae'n wych gweld y llwybr bellach yn cael ei ailagor. Mae’n llwybr hynod o brysur."

Ychwanegodd Cllr Chris Williams: Mae’r llwybr hwn yn bwysig i drigolion a busnesau a hoffwn longyfarch Cyngor Sir Penfro am wneud y gwaith cyn gynted â phosibl – ac mewn pryd ar gyfer gweddill yr haf. Hoffwn hefyd ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith yma.”