English icon English
Play day - circus skills

Llys y Frân yn paratoi ar gyfer Diwrnod Chwarae poblogaidd arall

Llys y Frân gearing up for another popular Play Day

Mae Diwrnod Chwarae 2024 gyda Chyngor Sir Penfro yn croesawu pobl o bob oedran i ddiwrnod hwyl i'r teulu yn Llys y Frân ddydd Mercher, 7 Awst.

Mae croeso i bob teulu a phobl o bob oedran ddod i’r diwrnod llawn hwyl, na fydd yn costio llawer, o 10am tan 3pm. 

Bydd amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn cael eu darparu drwy gydol y dydd gan gynnwys cestyll bownsio, chwarae blêr, adrodd straeon, helfa trychfilod, tatŵs gliter, chwarae meddal a phaentio wynebau.

Mae croeso i olwynion o bob math – gallwch ddod â'ch beiciau, sgwteri a hyd yn oed llafnau rholio.

£3 fydd pris parcio am y diwrnod, ond mae mynediad a’r gweithgareddau am ddim.

Mae caffi ar y safle a fydd ar agor fel arfer ar gyfer bwyd a diodydd. Yn ogystal â hyn, mae llefydd i fwyta ar gael os bydd teuluoedd yn dymuno dod â phicnic!

Mae mynediad i'r anabl ym mhob rhan o Llys y Frân hefyd, sy’n golygu ei bod yn hygyrch i bawb.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!