English icon English
bws

Mae angen eich cyfraniad i arolygon trafnidiaeth rhanbarthol

Regional transport surveys need your input

Mae dau arolwg trafnidiaeth sy'n cwmpasu De-orllewin Cymru wedi'u lansio ac mae trigolion Sir Benfro yn cael eu hannog i ddweud eu dweud.

Mae Metro Rhanbarthol De-Orllewin Cymru yn cynnal dadansoddiad manwl o wasanaethau bws a thacsis 'ar alw' yn yr ardaloedd mwyaf gwledig, gyda WSP, yr ymgynghorwyr.

Mae hyn yn cynnwys 'trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw’ fel gwasanaethau Fflecsi a Galw'r Gyrrwr a thrafnidiaeth gymunedol gan gynnwys rhannu ceir, gwasanaethau tacsi a llogi cerbydau.

Bydd dwy sesiwn galw heibio yn cael eu cynnal yn ystod y mis er mwyn i bobl gael gwybod mwy a chymryd rhan yn yr arolwg:

  • Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Neuadd Goffa Treletert, Heol yr Orsaf, Treletert, Hwlffordd SA62 5RY
  • Dydd Iau, 17 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Crymych Arms Inn, Crymych, Sir Benfro SA41 3RJ

Gellir ei gwblhau ar-lein hefyd cyn 11.59pm ddydd Iau, 31 Gorffennaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar rwydwaith bysiau De-orllewin Cymru hefyd i baratoi ar gyfer gwaith diwygio bysiau ehangach.

Ei nod yw denu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau ac mae'n paratoi Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig fel y cam cyntaf i greu rhwydwaith bysiau symlach. Dyma bwyslais yr arolwg diweddaraf.

Mae sesiwn galw heibio cymunedol wedi'i chynllunio ar gyfer 21 Gorffennaf yn HaverHub, Hwlffordd, 9am i 5pm. Mae eraill wedi'u trefnu yn ddiweddarach yn yr haf.

I wybod mwy a llenwi’r arolwg ewch i wefan ymgynghori Trafnidiaeth Cymru cyn 23 Medi 2025.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Byddem yn annog unrhyw un sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, neu weithiau, i fynegi eu barn yn yr arolygon hyn a helpu i barhau gyda gwelliannau'r rhwydwaith yn ein rhan ni o ranbarth gorllewin Cymru.”