English icon English
Darlun lliwgar o'r dref ddychmygol

Mae Cyngor Sir Penfro yn atgyfnerthu’r bartneriaeth â PLANED a’r trydydd sector yn 2025

PCC strengthens partnership with PLANED and third sector for 2025

Bydd PLANED yn ymgymryd â rôl allweddol o ran arwain gweinyddu a chyflawni rhaglen Cynllun Gwella Strydoedd Sir Benfro yn 2025.

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gadarnhau ei ymrwymiad parhaus i weithio gyda’r trydydd sector, ac atgyfnerthu partneriaethau â nhw, drwy gynlluniau fel hyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r cyngor yn cydnabod y rôl hanfodol y mae sefydliadau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn ei chwarae wrth gyflawni gwaith adfywio sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Gan ddatblygu’r berthynas waith sefydledig a llwyddiannus ymhellach, mae’r awdurdod lleol yn falch o weithio unwaith eto gyda PLANED i gefnogi gwaith i wella amgylcheddau trefi a strydoedd ledled Sir Benfro.

Bydd Cynllun Gwella Strydoedd Sir Benfro 2025 yn cefnogi gwaith i wella golwg strydoedd a ffryntiadau adeiladau hollbwysig ledled y sir. Bydd y broses o gyflawni’r cynllun yn elwa ar ddealltwriaeth ddofn PLANED o anghenion lleol, yn ogystal â’u hanes dibynadwy o gefnogi gwaith adfywio dan arweiniad y gymuned.

Mae’r bartneriaeth hon yn pwysleisio ymrwymiad ehangach Cyngor Sir Penfro i gydweithio â sefydliadau’r trydydd sector a rhanddeiliaid lleol i gyflawni newid cadarnhaol a chynaliadwy.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: “Mae cryfhau ein partneriaethau â sefydliadau fel PLANED yn ganolog i’r ffordd rydym ni’n cyflawni ymdrechion adfywio yn Sir Benfro. Mae eu dealltwriaeth o’r gymuned a’u harbenigedd yn amhrisiadwy, ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’n gilydd eto i helpu i adfywio a gwella ein trefi.”

Ychwanegodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED: “Gweithio mewn partneriaeth ar ran cymunedau yw’r hyn y mae PLANED yn ei wneud orau, ac mae wedi gwneud hyn ers bron i 40 mlynedd bellach. Mae gweithio gyda’n cydweithwyr a’n partneriaid yng Nghyngor Sir Penfro ar hyn, a phrosiectau eraill, yn helpu i sicrhau bod arloesedd ein cymunedau’n cael ei gefnogi a’u syniadau’n cael eu gwireddu yn yr hirdymor."