Mae’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn parhau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud!
Budget consultation continues, make sure to have your say!
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar bennu cyllideb Cyngor Sir Penfro yn rhedeg tan 5 Ionawr.
Bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn helpu'r Cyngor i ddeall pa wasanaethau sy'n bwysig i'r cyhoedd wrth i'r Awdurdod Lleol wynebu dewisiadau anodd ar gyfer 2025-26 a thu hwnt.
Fel cynghorau eraill yng Nghymru, mae CSP yn wynebu pwysau cyllidebol parhaus a bydd angen gwneud arbedion.
Ceir nifer o gynigion a fydd o bosibl yn effeithio ar y ffordd y mae'r cyhoedd yn derbyn gwasanaethau.
Yr wythnos diwethaf rhoddwyd diweddariad i'r Cyngor Llawn ynghylch y setliadau ariannu dros dro ar gyfer Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ac Effeithlonrwydd, y Cynghorydd Joshua Beynon, wrth y cyfarfod fod y setliad ar gyfer Sir Benfro yn fwy cadarnhaol na'r disgwyl, ond bod dewisiadau anodd i'w gwneud o hyd. Y cynnydd yw 3.6%, £8.1 miliwn ychwanegol. Mae hyn yn gadael bwlch ariannol o tua £28.1 miliwn.
Bydd adroddiadau llawn ar effaith y setliad ar y gyllideb a'r bwlch cyllido a ragwelir yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a Phwyllgorau Craffu yn y Flwyddyn Newydd, cyn dychwelyd i'r Cyngor Llawn ym mis Chwefror.
Gallwch roi eich barn ar opsiynau arbed arian y Cyngor ar gyfer y gyllideb drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriad-cyllideb-25-26
Mae'r ymgynghoriad ar-lein hefyd yn cynnwys offeryn modelu cyllideb y gellir ei weld yma:
https://opsiynaucyllideb.sir-benfro.gov.uk/
Os hoffech gael copi papur o'r ffurflen ymateb, ffoniwch 01437 764551 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw 5 Ionawr 2025.