English icon English
Ash dieback 2

Rheoli coed sydd wedi’u heffeithio gan glefyd coed ynn

Managing trees affected by ash dieback

Mae gwaith wedi’u wneud ledled Sir Benfro i reoli coed sydd wedi’u heffeithio gan glefyd coed ynn.

Clefyd coed ynn yw un o’r clefydau gwaethaf i goed y mae’r DU erioed wedi’i weld ac nid oes triniaeth ar ei gyfer.

Mae coed sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd yn mynd yn frau dros amser a’r canghennau yn torri i ffwrdd.

Os na chânt eu rheoli, bydd y coed yn gwanhau a gallent fod yn agored i bathogenau eilaidd a allai olygu methiant llwyr, gan achosi perygl uniongyrchol yn yr ardal o’u cwmpas.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: “Fel llawer o ardaloedd o Gymru a’r DU, mae clefyd coed ynn yn amlwg yn Sir Benfro.

“Mae hi bob amser yn drueni pan fo angen torri coeden ond mae’r gwaith hwn yn bwysig i ddiogelwch y cyhoedd.

“Mae’r cyngor hefyd yn amlygu pwysigrwydd y camau y mae angen i berchnogion tir preifat eu cymryd hefyd.”

Trwy gynnal archwiliadau ar y priffyrdd, mae’r Awdurdod wedi nodi coed ar dir preifat a allai effeithio ar y briffordd a bod angen sylw arnynt.

Mae dyletswydd ar berchnogion tir preifat, o dan y Ddeddf Priffyrdd, i reoli coed ar eu tir.

Mae Tîm Gofal Stryd y Cyngor yn parhau i gysylltu â pherchnogion tir preifat i nodi coed yn y categori uchaf o ddirywiad.

I gynorthwyo â’r mater hwn mae’r Cyngor yn gofyn i berchnogion tir preifat archwilio eu coed ynn am unrhyw arwydd o’r clefyd a chymryd camau priodol.

Bydd hyn yn arbennig o bwysig nawr wrth i ni fynd i gyfnod yr haf. Wrth i ddail dyfu ceir arwyddion o goed sydd wedi’u heffeithio gan glefyd coed ynn y bydd angen i berchnogion tir eu harchwilio a chymryd camau os oes angen.

Mae’r Cyngor yn cynghori defnyddio arbenigwr coed i asesu ac adolygu unrhyw waith torri coed ac i sicrhau bod caniatâd ar waith i dorri unrhyw goed a nodwyd.

I gael gwybod mwy am glefyd coed ynn, gweler gwefan y Cyngor.