English icon English
Lennie prydau usgol am ddim

Manteisiwch ar brydau ysgol am ddim i arbed amser ac arian

Take advantage of free school meals to save time and money

Eisiau arbed amser ac arian ar becynnau bwyd? A yw eich plentyn yn yr ysgol Gynradd yn amser llawn?

Beth am fanteisio ar y prydau ysgol poeth neu oer am ddim sydd ar gael o fis Medi.

Mae opsiwn brechdan neu daten pôb i blant bob dydd os nad ydyn nhw am gael pryd o fwyd poeth.

Mae hynny'n golygu nad oes rhaid i chi boeni am ddarparu cinio i'ch plentyn, gallant ddewis eu opsiwn pryd bwyd bob bore wrth gofrestru.

Mae'r fwydlen dreigl tair wythnos yn cynnig bwyd blasus, maethlon a chytbwys gan gynnwys yr holl anghenion dietegol. Mae dewisiadau poblogaidd yn cynnwys pasta bolognaise, brecinio Cowboi, a tortila cyw iâr.

Gadewch i ni ddileu’ch pryderon - gall ein tîm ymroddedig o arbenigwyr maeth ddarparu ar gyfer unrhyw blentyn sy'n dioddef o alergedd neu anoddefiad bwyd hefyd.

Os oes gan eich plentyn ofynion neu gyfyngiadau dietegol penodol, cysylltwch â'n Swyddog Cyswllt Ysgolion drwy e-bost elinor.phlip@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 776168.

Rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr, beth am arbed amser ac arian gwerthfawr ar becyn cinio ysgol?

Yn sgil y cynnydd mewn costau bwyd, rydym wedi amcangyfrif y gallech arbed mwy na £10 yr wythnos fesul plentyn, gan fod bwydydd sydd fel arfer yn cael eu cynnwys mewn pecynnau cinio ysgol wedi codi ar gyfartaledd tua 70% mewn 18 mis.

Mae Cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Bawb wedi bod ar gael bob dydd ar gyfer pob plentyn amser llawn ym Mlwyddyn 2 ac iau. Bydd y fenter hon yn ymestyn i bob dysgwr Cynradd o fis Medi 2023. 

Nid yw'r cynllun yn disodli Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer y dysgwyr hynny y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau cymwys, sy'n eu galluogi i gael mynediad at gymorth ariannol arall ar gyfer costau ysgol. 

Cymerwch gipolwg ar y bwydlenni sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro a beth am roi cynnig ar ginio am ddim!

Gall unrhyw ddisgyblion sydd â balans o hyd ar eu cyfrif Arlwyo Di-arian ar ddiwedd y tymor ofyn am ad-daliad trwy e-bostio cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk