English icon English
Eleanor a Ashley John Baptiste 2

Merch yn ei harddegau sy’n byw mewn gofal maeth yn Sir Benfro yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog

Teenager living in foster care in Pembrokeshire wins prestigious Fostering Excellence Award

Mae merch yn ei harddegau o Sir Benfro sydd ag uchelgeisiau i fod yn swyddog heddlu wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu, sef yr acolâd maethu mwyaf mawreddog yn y DU, i gydnabod ei chyflawniadau eithriadol.

Enillodd Eleanor Y Wobr Rhwydwaith Maethu ar gyfer Pobl Ifanc, a noddir gan John Lewis Partnership, yn Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yn Birmingham ddydd Mawrth.

Daeth Eleanor i fyw gyda’i gofalwr maeth Jokë, pan oedd hi’n bum mlwydd oed.

O’r adeg y cyrhaeddodd gartref Jokë, roedd Eleanor bob amser yn ymdrechu i wneud ei gorau ac roedd yn benderfynol i oresgyn yr heriau oedd yn ei hwynebu. Trwy waith caled a dyfalbarhad, cofrestrodd Eleanor ar gwrs Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai yn y coleg ddwy flynedd yn ôl. Roedd ei natur benderfynol yn amlwg iawn, a llwyddodd yn rhwydd. Mae hi wedi sicrhau lle yn y brifysgol, a’i nod yw gweithio yn yr heddlu.

Mae Jokë, sy’n maethu gyda Maethu Cymru Sir Benfro, sef gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, yn rhoi clod i Eleanor am bopeth mae hi wedi’i wneud er mwyn llwyddo yn ei bywyd, ac yn dweud, “Bydda’ i wrth ei hochr bob cam o’r ffordd – fy nghartref i yw ei chartref hi.’

Dywedodd Melany Evans, Rheolwr Gwasanaeth o Gyngor Sir Penfro: “Rydyn ni mor falch o Eleanor am ennill y wobr hon. Mae Eleanor wedi dangos ei phenderfyniad i gyflawni ei nodau. Mae hon yn adeg i fyfyrio ar gyflawniadau anhygoel ein pobl ifanc a’n gofalwyr maethu gwych sy’n gwneud ymdrech arbennig ac yn sicrhau bod eu dyheadau’n gallu cael eu gwireddu. Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cartref hirdymor a sefydlog i’n pobl ifanc mewn gofal, sy’n eu galluogi i greu dyfodol gwell.”

Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maethu mwyaf mawreddog y DU, sy’n dathlu cyflawniadau rhagorol mewn maethu ac yn cydnabod y rheiny sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol at ofal maethu bob dydd. 

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Repertory Theatre, Birmingham, wedi’i llywyddu gan y darlledwr, y cyflwynydd teledu a’r siaradwr ysbrydoledig, Ashley John Baptiste, a oedd wedi tyfu i fyny mewn gofal ei hun.

Dywedodd Prif Weithredwr Y Rhwydwaith Maethu, Sarah Thomas:

‘Eleni yw fy mlwyddyn gyntaf yn y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu fel Prif Weithredwr, ac rwy’n hynod falch i allu dathlu gwaith rhagorol pobl o fewn ein cymunedau maethu yn y modd hwn.

‘Mae wedi bod mor hyfryd darllen storïau pawb a chlywed am bobl eithriadol sy’n gwneud mwy na’r disgwyl i gynorthwyo pobl eraill. Mae’n anrhydedd gallu dathlu’r cyflawniadau anhygoel hyn gyda’n gwobrau blynyddol, yn ogystal ag amlygu rôl hanfodol maethu i’r rheiny y tu allan i’r gymuned faethu.

‘Mae’r gymuned faethu yn un gwbl arbennig, a dylai pawb arall sy’n ymwneud â maethu yn y DU fod yn hynod falch o’u cyfraniadau at ofal maeth.

‘Gan fod angen dros 7,000 o deuluoedd maethu yn y DU, mae’n hanfodol i ni gael mwy o ofalwyr maeth eithriadol i ddarparu cartrefi sefydlog ar gyfer plant a phobl ifanc.’

Lluniau:

Eleanor ac Ashley John Baptiste yn y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu. 

Eleanor gyda Jokë