English icon English
Music at the manor Staff band and choir

Cerddoriaeth yn y Faenor yn dychwelyd ar gyfer sioe ysblennydd arall

Music at the Manor returns for another spectacular show

Mae amgylchoedd gwych Maenor Scolton yn mynd i gynnal cyngerdd awyr agored ysblennydd arall.

Bydd Cerddoriaeth yn y Faenor, wedi'i drefnu gan Wasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro, a gan adeiladu ar ddigwyddiad llwyddiannus y llynedd, yn cynnwys bron 150 o gerddorion ifanc.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener, 12 Mai, a bydd y giatiau’n agor am 4.30pm, gyda'r cyngerdd yn dechrau am 6pm.

Gwahoddir y rheiny fydd yn mynychu’r gyngerdd i ddod â phicnics a blancedi/ cadeiriau ac eistedd yn ôl a mwynhau rhaglen wych.

Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Bennaeth Ysgol Greenhill, David Haynes.

Music-at-the-Manor-2023-Welsh

Mae'r perfformwyr ifanc yn aelodau o Gerddorfa Linynnol, Band Chwyth, Band Cyngerdd, Ban Pres, Cerddorfa Hyfforddi, a Bandiau Roc a Phop Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro.

Y grwpiau cymunedol fydd yn perfformio yw Cerddorfa Siambr Cleddau, a chôr cymunedol Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth wych, bydd peintio wynebau ar gael gan y perfformwr talentog Gabrielle Swales.

Os bydd chwant bwyd ar y rheiny sy'n hoff o gerddoriaeth, bydd The Little Peppercorn yn gweini byrgyrs arbennig a sglodion llwythog, a bydd J&J Pizza wrth law i ddarparu ar gyfer y rheiny sy’n hoff i bitsas.

Bydd diodydd poeth ac oer ar gael hefyd.

  • Pris tocynnau yw £8, £4 Consesiynau, £18 tocyn teulu. Talwch ymlaen llaw lle bynnag y bo modd drwy gysylltu â angela.white@pembrokeshire.gov.uk neu'r Gwasanaeth Cerdd ar 01437 775202. Bydd tocynnau ar gael ar y noson ond mae’n well talu ymlaen llaw i leihau tagfeydd.