English icon English
Still from Milford Haven's Facebook video about removing mobiles in school

Mwy o ysgolion Sir Benfro yn cefnogi bod heb ffôn symudol

More Pembrokeshire schools championing going mobile phone free

Mae ysgolion yn Sir Benfro yn arwain y ffordd o ran lleihau problemau gyda ffonau symudol ac mae'r Cyngor ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu polisi i'w gefnogi.

Y rhesymeg y tu ôl i'r polisi yw bod dyfeisiau a ffonau symudol yn hollbresennol sy'n achosi heriau sylweddol i'r ffordd y mae disgyblion yn ymddwyn ac yn dysgu mewn ysgolion.

Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu bod defnydd heb gyfyngiad o ffonau symudol mewn ysgolion yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a chynnydd academaidd disgyblion, tra hefyd yn draenio egni staff ysgolion sy'n gorfod rheoli problemau sy'n deillio o hynny.

Yn ogystal â thynnu sylw gan negeseuon arferol, mae risgiau o fwlio, secstio neu rannu sgyrsiau a delweddau amhriodol.

Sefydlodd swyddogion addysg weithgor Awdurdod Lleol ac Ysgolion i ddatblygu canllawiau ar beidio â defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn dilyn y llwyddiant a gafodd Ysgol Penrhyn Dewi pan gafodd ei chyflwyno'r llynedd.

Roedd Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Gynradd Gelliswick yn rhan o'r grŵp sydd wedi datblygu canllawiau ffonau symudol i ysgolion eu cyflwyno'r flwyddyn academaidd hon.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Michele Thomas: "Mae sefydlu arferion da yn yr ysgol gynradd i fod heb ffonau symudol yn cefnogi'r pontio i ysgolion uwchradd gyda'r un polisi. 

“Mae bron pob ysgol yn Sir Benfro yn gwahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, sydd wedi helpu dysgwyr i ganolbwyntio'n well ar eu gwaith ac yn lleihau pethau sy’n tynnu eu sylw. Yn ogystal â hyn, mae'r polisi yn lleihau'r risg o unrhyw ddefnydd amhriodol. Mae'r polisi wedi bod yn gweithio'n dda a bydd iddo fuddion tymor hir yn gyffredinol.” 

Ychwanegodd Rachel Thomas, Pennaeth Ysgol Penrhyn Dewi: "Mae gwahardd y defnydd o ffonau symudol a'u storio yn ystod amser gwersi wedi newid amgylchedd diogelu, lles a dysgu cymuned ein hysgol gyfan yn llwyr.

“Fy mantra diweddaraf i yw ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae plant yn cael eu gwahardd rhag chwarae concyrs ond yn cael ffonau symudol a dyfeisiau ar-lein sy'n peryglu eu diogelwch, lles a'u plentyndod."

Mae arian hefyd wedi'i ddyrannu i gefnogi ysgolion gyda'r logisteg o gael gwared ar ffonau, fel cyfleusterau storio, ac mae pob ysgol uwchradd bellach yn gweithredu neu'n bwriadu cyflwyno'r canllawiau polisi eleni.

Dywedodd Sean Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Ymddygiad, Diwylliant ac Ethos yn Ysgol Aberdaugleddau: "Fel ysgol, roeddem yn rhagweld bod y polisi hwn yn heriol i'w weithredu, o leiaf am yr wythnosau cyntaf. Fodd bynnag, mae'r disgyblion, y staff a'r rhieni wedi ei gymryd ymlaen yn wych, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

“Mae disgyblion a staff i gyd wedi gwneud sylwadau ar well canolbwyntio yn ystod gwersi, llai o amharu ac amgylchedd tawelach."

Cydweithiodd y Tîm Swyddogion, y Tîm Cyfathrebu a'r Pennaeth i greu fideo hwyliog a llawn gwybodaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan fynd i'r afael â phryderon am y polisi ffôn symudol newydd ar ôl sesiwn llais y disgybl i sicrhau bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u hysbysu am y newidiadau sydd o'n blaenau.

https://www.facebook.com/watch/?v=8392736097461562

https://www.facebook.com/watch/?v=2163212714061878

Ychwanegodd y Pennaeth Ceri-Ann Morris: "Rwy'n hynod falch o sut mae ein disgyblion wedi croesawu'r newid cadarnhaol hwn. Mae gwrando ar lais ein disgyblion cyn gweithredu'r polisi newydd wedi bod yn allweddol yn ei lwyddiant gan fod eu cyfraniad a'u cydweithrediad wedi helpu i greu cyfnod pontio llai trafferthus a mwy cadarnhaol i bawb.

“Gwnaeth y Tîm Swyddogion waith gwych yn mynd i'r afael â phryderon gan lais y disgyblion mewn fideo gwych a ryddhawyd i rieni a disgyblion cyn i'r polisi newydd fod ar waith. Rydym wedi gweld effaith gadarnhaol aruthrol mewn ystafelloedd dosbarth gan fod disgyblion yn canolbwyntio mwy ac mae cynnydd wedi bod mewn rhyngweithio cymdeithasol yn ystod egwyl. Mae'r adborth gan staff, rhieni a disgyblion wedi bod yn hynod gadarnhaol."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Mae ein hysgolion yn arwain y ffordd o ran gwella diogelwch a dysgu i'w dysgwyr, mae'r polisi ffôn symudol hwn yn eu cefnogi yn y gwaith yma i amddiffyn pobl ifanc.

“‘Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â datblygu a gweithredu'r polisi newydd ac effeithiol hwn."