Castell Arberth ar gau dros dro ar gyfer archwiliadau diogelwch
Narberth Castle temporarily closed for safety checks
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cau Castell Arberth tra bod gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal.
Cafodd adroddiad Strwythur Peryglus ei ffeilio gyda Rheoli Adeiladu yn gynharach yr wythnos hon ar ôl i waith cerrig wedi cwympo gael ei ddarganfod ar y ddaear ac archwiliad gael ei gynnal.
Er mwyn diogelu diogelwch cerddwyr ac aelodau o'r cyhoedd, mae'r ardal wedi’i gau dros dro.
Bydd lefel yr atgyweiriadau sydd eu hangen yn cael ei sefydlu gan Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod Lleol a'r Peiriannydd Strwythurol cyn i'r Castell gael ei wneud yn ddiogel a bydd yn cael ei ailagor cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.
Bydd swyddogion yn ymgynghori â Cadw cyn i unrhyw waith atgyweirio ddechrau.
Dywedodd Nicola Gandy, Pennaeth Cynllunio: “Mae swyddogion yn asesu'r ardaloedd o gerrig sydd wedi cwympo yng Nghastell Arberth a bydd y safle yn parhau i fod ar gau er diogelwch tra bydd hyn yn cael ei wneud.
“Unwaith y bydd y Castell yn ddiogel, bydd yn cael ei ailagor i'r cyhoedd.”