New Chairman May 2023

Cadeirydd newydd yn cymryd yr awenau yng Nghyngor Sir Penfro

New Chairman takes the chains at Pembrokeshire County Council

Rhannu:

Cadeirydd newydd Cyngor Sir Penfro yw’r cynghorydd Thomas Tudor sydd wedi gwasanaethu yn Hwlffordd ers cryn amser.

Sefydlwyd y Cynghorydd Tudor, Is-gadeirydd yr Awdurdod yn flaenorol, yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor yn Neuadd y Ddinas yn Hwlffordd a gynhaliwyd ddydd Gwener, 12 Mai.

Mae’r Cynghorydd Tudor, sy’n cynrychioli Ward y Castell yn Hwlffordd, yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd Pat Davies.

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd David Simpson bleidlais o ddiolch i’r Cynghorydd Davies.

Mae’r Cynghorydd Tudor wedi bod yn aelod o Gyngor Sir Penfro am 28 mlynedd.

Yn Ymarferydd Adran Llawdriniaeth ac yn Gydgysylltydd Anaesthetig/Theatr yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, enwebwyd y Cynghorydd Tudor gan y Cynghorydd Paul Miller a’i eilio gan y Cynghorydd Joshua Beynon.

Diolchodd y Cynghorydd Tudor i’r aelodau am gefnogi ei enwebiad.

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i staff Cyngor Sir Penfro a’r pwyllgor democrataidd am ymgymryd â’u dyletswyddau yn y modd mwyaf proffesiynol, yn ôl yr arfer.

“Byddaf yn ymgymryd â rôl y Cadeirydd â brwdfrydedd a chymhelliant ac rwy’n ymwybodol iawn o’r anrhydedd y mae’r aelodau wedi’i ymddiried ynof, a byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau gyda gwyleidd-dra ac ymdeimlad dwys o’r cyfrifoldeb sydd wedi ei roi i mi.

“Yr elusennau yr wyf wedi eu dewis ar gyfer cyfnod fy nghadeiryddiaeth yw Adam’s Bucketful of Hope ac Ymddiriedolaeth Hosbis yn y Cartref Paul Sartori sy’n awyddus i weithio gyda’i gilydd er budd eu cleifion a phobl Sir Benfro, ac os hoffai’r trigolion gyfrannu at yr elusennau, byddai hynny’n cael ei groesawu a’i werthfawrogi’n fawr.”

Yn yr un cyfarfod etholwyd y Cynghorydd Steve Alderman yn Is-gadeirydd newydd y Cyngor a chadarnhawyd y byddai’r Cynghorydd Simon Hancock yn parhau fel Aelod Llywyddol.

Roedd Uchel Siryf Dyfed Mr Meurig Raymond CBE a Chydweddog yr Uchel Siryf Mrs Hilary Raymond yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol fel gwesteion.

Nodiadau i olygyddion

Cadeirydd newydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor yn eistedd yn y canol gyda (ar y chwith) Mrs Alison Tudor (Cydweddog y Cadeirydd), Uchel Siryf Dyfed Mr Meurig Raymond a Chydweddog yr Uchel Siryf Mrs Hilary Raymond.

Yn sefyll yn y rhes gefn mae Will Bramble (Prif Weithredwr), y Cynghorydd Pat Davies (y Cadeirydd blaenorol), y Cynghorydd Simon Hancock (yr Aelod Llywyddol) y Cynghorydd David Simpson (Arweinydd) a’r Cynghorydd Steve Alderman (Is-gadeirydd).