English icon English
Gwastraff bwyd

Ymgyrch ailgylchu bwyd newydd i wthio cyfranogiad hyd yn oed yn uwch

New food recycling campaign to push participation even higher

Yn y tair blynedd diwethaf mae Sir Benfro wedi dod i'r brig yng Nghymru o ran ailgylchu, ond un maes sydd angen ei wella yw gwaredu bwyd gwastraff y gellid ei ailgylchu ond nad yw’n cael ei ailgylchu.

Goresgyn y 'ffactor ych' ac ailgylchu gwastraff bwyd yw ffocws 'Be Mighty. Recycle.' diweddaraf WRAP Cymru, ymgyrch ailgylchu, a fydd yn cael ei chefnogi gan Sir Benfro i hybu ei gyfraddau ailgylchu hyd yn oed yn uwch. 

Dyma ffocws yr ymgyrch genedlaethol ddiweddaraf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Nod yr ymgyrch yw annog trigolion Cymru i roi eu holl wastraff bwyd yn eu cadi gwastraff bwyd, fel y gall eu cyngor lleol ei gasglu bob wythnos, a'i droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a chymunedau Cymru

Mae dadansoddiad wedi dangos y gallai bron i 48% o'r hyn sy'n cael ei roi ym magiau llwyd Sir Benfro ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu gael ei ailgylchu, ac mae'r gyfran uchaf o hyn — bron i 17% — yn wastraff bwyd.

Roedd y rhan fwyaf o'r gwastraff hwn wedi bod yn fwytadwy ond nid oedd wedi cael ei fwyta, ynghyd â gwastraff anfwytadwy fel plisgyn wyau.

Mae achlysuron bob amser pan fydd llysiau'n mynd yn ddrwg, bara yn hen, neu os bydd pecyn o ham anghofiedig yn cael ei anwybyddu yn yr oergell, a phan fydd hynny'n digwydd gofynnir i drigolion ei wagio mewn cadi gwastraff bwyd ac ailgylchu'r deunydd pacio lle bo hynny'n bosibl, yn hytrach na defnyddio'r bagiau llwyd.

Mae ymgyrch ailgylchu WRAP Cymru 'Be Mighty. Recycle.' yn cynnwys cyllid ar gyfer awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan i sicrhau bod polisïau a rhwymedigaethau amgylcheddol yn parhau i gael eu bodloni er gwaethaf pwysau ariannol cynyddol. 

Cadwch lygad allan am yr ymgyrch yn Sir Benfro ar ein lorïau casglu ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Rhaid i gynghorau yng Nghymru ailgylchu 70% erbyn 2025 i gyrraedd targedau gorfodol Llywodraeth Cymru a gallant gael dirwy os na chyflawnir y targedau.

Mae rhagor o fanylion am y lefelau ailgylchu diweddaraf a gofnodwyd yn Sir Benfro, a'r mathau o wastraff nad ydynt yn cyrraedd y cynhwysydd ailgylchu perthnasol, yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet gwasanaethau Trigolion: “Mae cyfraddau ailgylchu yn Sir Benfro wedi bod yn cynyddu ac mae angen i ni gadw'r momentwm hwnnw i fynd. Mae ailgylchu ymyl y ffordd wedi gweld newidiadau sylweddol mewn agweddau ac arferion ailgylchu ond gall pob un ohonom wneud mwy.

“Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom yn cyfaddef nad ydym bob amser yn gwagio bwyd sydd wedi mynd yn hen i'r cadi gwastraff, nid yw'n waith dymunol! Os gallwn anfon mwy o fwyd heb ei ddefnyddio i'w ailgylchu yn hytrach nag ychwanegu pecynnau heb eu hagor at wastraff gweddilliol gallwn roi hwb i'n cyfraddau ailgylchu hyd yn oed yn uwch.”