Newidiadau i wasanaethau bysiau lleol o fis Ebrill 2024
Local Bus Service Changes for April 2024
Bydd nifer o newidiadau i wasanaethau bysiau lleol yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf o ganlyniad i ad-drefnu cyllid bysiau.
O fis Ebrill 2024, bydd y cyllid sydd wedi'i ddarparu'n uniongyrchol i weithredwyr bysiau gan Lywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau i fynd yn sgil pandemig Covid yn dod i ben.
Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol o hyn ymlaen i gefnogi eu rhwydwaith bysiau lleol.
Bydd Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o dros £3 miliwn o gymorth i wasanaethau bysiau yn Sir Benfro yn ystod y flwyddyn i ddod.
Fel rhan o'r broses hon, mae holl wasanaethau bysiau lleol Sir Benfro wedi eu tendro unwaith eto.
Gwnaeth ymgynghoriad cyhoeddus, a dderbyniodd dros 300 o ymatebion, helpu i lywio penderfyniadau ynghylch pa wasanaethau y dylid eu blaenoriaethu.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau i Breswylwyr: "Rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod yn gallu cynnal rhwydwaith bysiau lleol presennol Sir Benfro gyfan yn y flwyddyn i ddod.
"Rydym hefyd wedi sicrhau gwelliannau allweddol er enghraifft adfer gwasanaeth bob awr ar y llwybr 349 rhwng Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro, a'r gwasanaethau bysiau arfordirol poblogaidd Gwibiwr Strwmbwl a’r Pâl Gwibio yn ystod yr haf."
Bydd y newidiadau hefyd yn golygu y bydd dau wasanaeth allweddol, sef y 302 o Hwlffordd i Aberdaugleddau a’r 349 o Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro, yn cael eu goruchwylio gan y Cyngor am y tro cyntaf.
Bydd hyn yn rhoi mwy o oruchwyliaeth i'r Cyngor o weithrediadau gwasanaeth a phrisiau. Bydd trigolion Sir Benfro hefyd yn elwa o strwythur prisiau newydd ar holl wasanaethau First Cymru, a fydd yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill 2024.
Bydd hyn yn defnyddio Tapio i Mewn ac Allan i ganiatáu i deithwyr dalu'r pris rhataf, yn dibynnu ar nifer y teithiau a wnânt neu bellter a deithiwyd, a bydd yn capio'r uchafswm pris i oedolion ar £3 unffordd a £5.40 dwyffordd.
Mae mwy o wybodaeth am y prisiau hyn ar gael ar wefan First Cymru.
Mae nifer o newidiadau a gwelliannau ychwanegol i'r gwasanaeth yn cael eu hystyried, i'w cyflwyno yn ystod y flwyddyn, mewn ymateb i'r adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r newidiadau i'r gwasanaeth bysiau canlynol wedi'u cadarnhau:
O 23 Mawrth 2024:
- Bydd y Gwibiwr Celtaidd (403) ar benrhyn Tyddewi yn ailgychwyn ar gyfer tymor 2024 ddydd Sadwrn 23 Mawrth a bydd yn rhedeg tan ddydd Sul 29 Medi. Mae hwn yn wasanaeth bob awr, gan gynyddu i bob hanner awr yn ystod hanner tymor y Sulgwyn a gwyliau haf ysgolion. Ni fydd gwasanaeth yn gadael Heol Caerfai am 13.00 a 13.30.
- Bydd y 351 (Dinbych-y-pysgod drwy Amroth) yn dychwelyd i’w amserlen haf.
O 19 Mai 2024
- Bydd gwasanaeth Coaster Dinbych-y-pysgod yn ailddechrau ar gyfer tymor yr haf.
O 1 Ebrill 2024 ymlaen
- Bydd gwasanaeth bob awr yn dychwelyd ar y 349 (Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro) (mis Ebrill i fis Medi yn unig).
- Ni fydd y gwasanaeth 356 (Aberdaugleddau i Gil-maen) yn galw yn Waterston a Hazelbeach mwyach oherwydd materion gweithredol a achosir gan y lonydd cul yn yr ardal hon. Bydd gwasanaeth Fflecsi yn dal i fod ar gael.
- Bydd gwasanaeth dydd Sadwrn, rhwng 07:30 a 18:30, yn cael ei ailgyflwyno ym mharth Fflecsi Canolbarth Sir Benfro (a arferai gael ei alw’n Bwcabus). Mae'r parth hwn yn cynnwys yr ardal rhwng Treletert, Crymych, Clunderwen a Chas-wis. Gall teithwyr hefyd deithio o'r parth hwn i Abergwaun a Hwlffordd.
- Bydd y gwasanaethau 302 (Hwlffordd i Aberdaugleddau) a 349 (Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro) a weithredir gan First Cymru yn dod o dan reolaeth Cyngor Sir Penfro, gan roi mwy o oruchwyliaeth i'r Cyngor o weithrediadau a phrisiau gwasanaeth.
- Bydd y gwasanaethau 322 (Hwlffordd i Gaerfyrddin) a 381 (Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Arberth) yn cael eu cynnal gan First Cymru. Bydd amserlen y 322 yn aros yr un fath. Bydd amserlen y 381 yn aros yr un fath o Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod ond bydd teithiau o Ddinbych-y-pysgod i Hwlffordd yn gadael ychydig yn gynharach (37 munud wedi'r awr yn hytrach na 45 munud).
- Bydd y gwasanaethau X22 ac X61 a oedd yn darparu teithiau ar ddechrau a diwedd y dydd rhwng Doc Penfro a Cilgeti, a Doc Penfro a Hwlffordd yn cael eu tynnu'n ôl.
- Bydd y gwasanaethau 410 (Tref Abergwaun) a T11 (Hwlffordd i Abergwaun trwy Dyddewi) yn cael eu gweithredu ar sail fasnachol (T11 rhan fasnachol) gan Richards Bros. Bydd gwell cysylltiad â'r fferi yn Harbwr Abergwaun yn cael ei ddarparu am 12.30.
O 25 Mai 2024 ymlaen
- Bydd y gwasanaeth 400 Pâl Gwibio a 404 Gwibiwr Strwmbwl yn dychwelyd i'r arfordir rhwng Marloes a Thyddewi, a Tyddewi ac Abergwaun. Bydd y gwasanaethau hyn yn weithredol 7 diwrnod yr wythnos tan 29 Medi 2024. Mae gwasanaeth Fflecsi hefyd ar gael yn yr ardal hon drwy gydol y flwyddyn.
- Bydd y gwasanaeth 387/388 Gwibfws yr Arfordir o amgylch Penrhyn Angle hefyd yn dychwelyd i amserlen yr haf, gan weithredu 7 diwrnod yr wythnos tan 29 Medi 2024.
Mae rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau bysiau Sir Benfro ar gael ar wefan y Cyngor.
Tîm Cyfathrebu