Diwrnod agored i dynnu sylw at fanteision Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth
Open day to highlight benefits of Supported Employment Programme
Yr wythnos hon, bydd Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro yn agor ei drysau yn Hwlffordd i ddangos y gwaith mae’n ei wneud.
Bydd cyfle i ddysgu am y gwasanaethau a’r cyfleoedd y mae’r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn eu cynnig.
Gallwch ddysgu mwy hefyd am brosiect newydd “Gallwn” i bobl sydd ag anableddau dwys a lluosog a’r Fenter Cyflogaeth â Chymorth Leol i bobl sydd ag Anabledd Dysgu neu Awtistiaeth sy’n chwilio am waith am dâl.
Neu gallwch ddarganfod mwy am gyfleoedd gwaith â chymorth am dâl mewn mentrau cymdeithasol gwahanol sy’n cael eu rhedeg gan y Rhaglen, gan gynnwys y Diwydiannau Normanaidd, ei dri chaffi, Siop yr Orsaf, Maenordy Scolton a Thalog Coed, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyfleoedd dydd a chymorth cyflogadwyedd.
Bydd cynlluniau’r Rhaglen ar gyfer sut i wella darpariaeth i breswylwyr yn ne Sir Benfro gyda chynlluniau ar gyfer dyfodol Cei’r De, Penfro, yn rhan allweddol o’r diwrnod hefyd.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro, ynghyd â darpar gyfranogwyr, rhieni a gofalwyr, ddod draw i’r Diwydiannau Normanaidd, Snowdrop Lane, Hwlffordd ddydd Iau, 22 Mehefin rhwng 11am a 2pm.