Cyngor Sir Penfro yn cytuno ar y gyllideb ar gyfer 2024/25
Pembrokeshire County Council agrees budget for 2024/25
Heddiw (dydd Iau 7 Mawrth) mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno ar ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, 2024-2025.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller, fod Aelodau'r Cabinet wedi gwrando ar bryderon ynghylch lefel y cynnydd arfaethedig o 16.3% yn y Dreth Gyngor.
Yng nghyfarfod y Cyngor heddiw, cyflwynodd y Cynghorydd Miller gynigion amgen a fyddai'n cyfyngu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 12.5%.
Cytunwyd ar hyn gan fwyafrif yr Aelodau.
Bydd y newidiadau'n cael eu hariannu'n bennaf drwy ddefnyddio £1.5m ychwanegol o gronfeydd wrth gefn ynghyd ag £1m o arbedion effeithlonrwydd fel rhan o adolygiad gweithredol a arweinir gan y Prif Weithredwr.
Dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack, Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol: "Nid ydym yn weinyddiaeth sy'n anwybyddu pryderon, ond yn hytrach yn un sy'n gwrando.
"Nid yw'r cynigion hyn yn fwled arian, ni fydd yr heriau ariannol y mae'r cyngor yn eu hwynebu yn diflannu.
"Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw edrych yn galed iawn ac yn fwy manwl ar sut y gallem leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor - a gwasgaru’r cynnydd hwnnw dros ddwy flynedd - i leihau'r effaith ar ein trigolion, gan gynnal ein gwasanaethau cyhoeddus cystal ag y gallwn.
Dywedodd y Cynghorydd Miller: "Rydym wedi gwrando ar bryderon gan gydweithwyr ar draws y Siambr ynghylch y gyllideb a'r sylwadau y maen nhw wedi'u cyflwyno ar ran etholwyr.
"O ganlyniad rydym wedi gallu lleihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod ond hefyd amddiffyn cyn belled ag y bo modd, y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yr ydym yn eu darparu i bobl Sir Benfro.
"Dylid nodi fodd bynnag na fydd pwysau a nodwyd yn adroddiad y gyllideb yn diflannu a bydd angen penderfyniadau anodd yn y blynyddoedd i ddod."