English icon English
Footprints on snowy road - 923463082 cropped

Diweddariad Cyngor Sir Penfro: Rhybudd am ffyrdd rhewllyd a rhagor o darfu ar wasanaethau

Pembrokeshire County Council update: Warning over icy roads and further disruption to services

Mae trigolion yn cael eu rhybuddio ei bod bosibl y bydd ffyrdd a phalmentydd yn dal i fod yn rhewllyd heno, dros nos ac yfory, ddydd Gwener 19 Ionawr.

Bydd y tymheredd yn disgyn yn is na sero mewn sawl rhan o'r sir dros nos ac yn aros yn is na sero tan ganol y bore yfory.

Mae timau graeanu Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gweithio'n barhaus dros y 24 awr ddiwethaf a byddant allan drwy'r fin nos a'r nos heno yn graeanu'r prif lwybrau a’r llwybrau eilaidd.

Disgwylir i ffyrdd ac arwynebau heb eu trin yn arbennig fod yn rhewllyd iawn a bydd amodau gyrru yn beryglus ac yn anodd.

Ystyriwch a oes angen i chi deithio fore Gwener neu arhoswch tan yn hwyrach yn y dydd cyn teithio.

Bydd hyn yn helpu timau graeanu'r Cyngor i wneud eu gwaith a lleihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd ar hyn o bryd.

Cymerwch ofal ychwanegol os byddwch allan oherwydd y perygl o lithro.

Gwasanaethau'r Cyngor:

Bydd y Lloches Argyfwng ar gyfer Cysgu Allan  ar agor heno, nos Iau 18 Ionawr.

I gael mynediad i'r llety hwn, ffoniwch y Porth ar 01437 775268 (hyd at 5pm) neu ar ôl 5pm cysylltwch â'r Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd o'r Tîm Tu Allan i Oriau ar 03003 332222.

Sylwer, bydd pob Canolfan Ddydd y Cyngor ar gau ddydd Gwener.

Bydd ysgolion yn penderfynu a fyddant yn aros ar agor neu yn cau ar sail unigol, yn seiliedig ar yr amodau. Dilynwch ysgolion a Chyngor Sir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu:

Atgoffir aelwydydd a oedd i fod i gael casgliad heddiw (dydd Iau) y bydd casgliadau gweddilliol (bag llwyd / du) a chynhyrchion hylendid amsugnol yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 20 Ionawr a gofynnir iddynt ddal gafael ar eu hailgylchu tan eu casgliad nesaf.

Bydd y Cyngor yn ymdrechu i gynnal casgliadau gwastraff ac ailgylchu fel y cynlluniwyd yfory (dydd Gwener) yn amodol ar asesiad bore fory, fodd bynnag, dim ond mewn ardaloedd lle mae'n ddiogel gwneud hynny y gwneir hyn. Os effeithir ar wasanaethau, bydd Cyngor Sir Penfro yn blaenoriaethu casgliadau gweddilliol a chynhyrchion hylendid amsugnol.

Gofynnir i aelwydydd gymryd gofal yn yr amodau rhewllyd, peidio â rhoi eu hunain mewn perygl a dim ond rhoi eu cynwysyddion allan i'w casglu os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yfory os bydd effaith ar wasanaethau.

Gellir gweld Adroddiadau Sefyllfa a diweddariadau ar wefan CSP: https://www.sir-benfro.gov.uk/diweddariadau-o-r-sefyllfa

Dilynwch CSP ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Facebook: https://www.facebook.com/PembrokeshireCountyCouncil

X (Twitter gynt): https://twitter.com/Pembrokeshire

Gellir cysylltu â'r Cyngor ar 01437 764551, y tu allan i oriau 0345 601 5522 neu drwy e-bostio enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae Canolfan Gymunedol Sir Benfro, sy'n cynnig cyfeirio, cyngor a chymorth ar gael ar 01437 723660 / enquiries@pembrokeshire communityhub.org