English icon English
Dau fachgen yn rhedeg i lawr lôn wledig

Mae Sir Benfro yn dathlu Diwrnod Chwarae 2023 drwy gynnal diwrnod allan llawn hwyl i'r teulu!

Pembrokeshire is celebrating Play Day 2023 by hosting a fun filled family day out!

Bydd Diwrnod Chwarae 2023 yn cael ei gynnal yn Llys y Frân (SA63 4RR) ddydd Mercher 2 Awst rhwng 10.30am a 3.00pm.

Mae croeso i bob teulu a phobl o bob oed ddod i’r diwrnod llawn hwyl na fydd yn costio llawer. Bydd amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn cael eu darparu drwy gydol y dydd, gan gynnwys cestyll bownsio, cyrsiau antur, tatŵs gliter, chwarae meddal a phaentio wynebau. Bydd rhywbeth i bawb ei wneud!

Mae croeso i bob mathau o olwynion – gallwch ddod â'ch beiciau, sgwteri a hyd yn oed esgidiau rholio. Bydd ffi bach am barcio o £3 am y diwrnod ond bydd mynediad a’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim.

Mae caffi ar y safle a fydd ar agor fel arfer ar gyfer bwyd a diodydd. Yn ogystal â hyn, mae lleoedd i fwyta os yw teuluoedd yn dymuno dod â phicnic! Mae Llys y Frân yn cynnig mynediad i bobl anabl yn y safle cyfan, sy’n ei wneud yn hygyrch i bawb.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!