English icon English
Ironman beach - picture Gareth Davies Photography.

IRONMAN Cymru yn Sir Benfro yn cael ei gadarnhau fel un o'r goreuon yn y byd

Pembrokeshire’s IRONMAN Wales confirmed as one of the best in the world

Rydym wastad wedi amau ei fod yn wir, ond nawr mae'n swyddogol: IRONMAN Cymru yw un o'r digwyddiadau IRONMAN gorau yn y byd.

Ac mae'r dyfarniad hwnnw'n dod yn uniongyrchol oddi wrth y dynion a'r menywod rhyfeddol sy'n mynd i'r afael â'r triathlonau anodd ledled y byd.

Caiff ei redeg mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, sgoriodd IRONMAN Cymru yn y 10 uchaf yn fyd-eang a'r 10 uchaf yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica mewn wyth allan o naw categori yng Ngwobrau Dewis athletwyr IRONMAN.

IRONMAN Cymru yw'r unig ras sydd wedi cyrraedd y 10 uchaf mewn cynifer o gategorïau, gan danlinellu bod ras eiconig Sir Benfro yn ffefryn cadarn.

Mae IRONMAN Cymru yn dechrau gyda sesiwn nofio syfrdanol anhygoel o Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod, taith feicio hardd heibio traethau a chestyll, a llinell derfyn ar strydoedd sy'n llawn dop o dorfeydd hwyliog, yn fyd enwog erbyn hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr Cyngor Sir Penfro: "Mae'n wych gweld IRONMAN Cymru, Dinbych-y-pysgod a Sir Benfro yn cael eu cynnwys mor aml ac mor uchel ar y rhestr hon.

"O ystyried bod IRONMAN yn cynnal digwyddiadau mewn ardaloedd fel Barcelona, Florida, Y Swistir, Y Ffindir ac Awstralia, mae'r gystadleuaeth yn ddwys ac yn tanlinellu pa mor llwyddiannus yw'r digwyddiad hwn a pha mor bwysig yw hi i ddangos beth sydd gan Sir Benfro i'w gynnig.

"Mae pob digwyddiad yn denu miloedd o gystadleuwyr a chefnogwyr o bob cwr o'r byd ac mae'r gwobrau hyn yn dangos bod y si am groeso yn Sir Benfro yn cael ei lledaenu’n bell.

"Mae IRONMAN Cymru yn bwysig iawn i Sir Benfro ac rwy'n falch iawn y gall y Cyngor barhau i weithio'n agos gyda'r digwyddiad hwn a bod Sir Benfro yn parhau i elwa ohono."

Ymhlith y sylwadau a dderbyniwyd ar IRONMAN Cymru oedd hwn gan Natalie, sy’n rasiwr o Brydain: "Doedd y gefnogaeth a'r awyrgylch ddim yn debyg i unrhyw beth dw i erioed wedi ei brofi. Roedd yn drydanol.

"Roedd gen i groen gŵydd a bron i ddagrau ddod i'm llygaid.

"Mae'r digwyddiad hwn yn wirioneddol arbennig a dyma'r digwyddiad gorau i mi ei wneud o ran cwrs ac awyrgylch. Gwirioneddol anhygoel."

Ychwanegodd un arall o orffenwyr IRONMAN Cymru, Pauline: "Mae IRONMAN Cymru yn brawf o ddewrder a phenderfyniad llwyr, ond mae cefnogaeth a brwdfrydedd y dorf yn hynod gefnogol.

"Mae'n lle syfrdanol i rasio ond yn ddifrifol anodd - nid yw'n hawdd concro'r ddraig - ond mae croesi'r llinell derfyn honno’n newid bywyd mewn ffordd bositif iawn."

Dywedodd Sam Brawn, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y DU ac Iwerddon yng Ngrŵp IRONMAN: "Ar ôl cael bwlch o ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19, tymor 2022 oedd y tro cyntaf ers tymor 2019 y gallai athletwyr gael tymor di-dor llawn o rasio IRONMAN.

"Roedd hyn yn golygu ein bod yn ôl yn rasio yn Ninbych-y-pysgod am brofiad rasio bythgofiadwy arall sydd wedi arwain at gyrraedd y 10 uchaf mewn wyth allan o'r naw Gwobr Dewis Athletwyr IRONMAN, sy'n dangos y cysondeb mwyaf yn fyd-eang.

"Ni fyddai'r digwyddiad hwn yn gallu derbyn cymaint o ganmoliaeth heb y gymuned anhygoel sy’n ei gynnal, y rhanddeiliaid lleol a gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo o flwyddyn i flwyddyn yn rhan o'r digwyddiad.

"Rydym yn diolch i'r athletwyr am bleidleisio drosom ac yn gobeithio rhoi profiad rasio gwell fyth iddyn nhw'r tymor hwn."

Cynhelir IRONMAN Cymru eleni ar 3 Medi a 22 Medi 2024.

Canlyniadau Gwobrau Dewis Athletwyr IRONMAN:

Boddhad cyffredinol: 5ed yn Ewrop, 9fed yn Fyd-eang

Mynychu'r digwyddiad y flwyddyn nesaf: 3ydd yn Ewrop, 9fed yn Fyd-eang

Argymell i ffrind: 2il yn Ewrop, 2il yn Fyd-eang

Profiad Beicio Cyffredinol: 2il yn Ewrop, 2il yn Fyd-eang

Profiad Rhedeg Cyffredinol: 4ydd yn Ewrop, 9fed yn Fyd-eang

Boddhad Cyffredinol â’r Lleoliad: 2il yn Ewrop, 10fed yn Fyd-eang

Dinas Gynnal Gyffredinol: 2il yn Ewrop, 3ydd yn Fyd-eang

Boddhad Cyffredinol ar ôl y Ras: 2il yn Ewrop, 3ydd yn Fyd-eang.