English icon English
Tom Tudor gyda chynghorwyr eraill a phobl ifanc yng nghyntedd Neuadd y Sir

Pobl ifanc Sir Benfro yn canolbwyntio ar pam 'Mae Democratiaeth o Bwys'

Pembrokeshire’s young people focus on why ‘Democracy Matters’

Yn ystod digwyddiadau Mae Democratiaeth o Bwys yn Neuadd y Sir, cyflwynwyd nifer o gwestiynau anodd i banel o gynghorwyr gan bobl ifanc o Sir Benfro.

Trefnwyd dau ddigwyddiad gan y Gwasanaethau Etholiadol a'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc gyda chynrychiolwyr o ysgolion uwchradd, grwpiau ieuenctid, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro a Choleg Sir Benfro yn bresennol.

DM evening group-2

Yn cadeirio'r sesiynau bore a gyda'r nos roedd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Thomas Tudor a ddywedodd ei bod wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan ohono.

"Mae'r digwyddiadau anhygoel hyn yn rhoi llais i bobl ifanc holi cynghorwyr etholedig a swyddogion yr awdurdodau ar faterion maen nhw’n ymwneud â nhw, a diolch yn fawr iawn i'r holl bobl ifanc a fynychodd o ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid.

"Roedd y cwestiynau wnaeth i ni gyd feddwl yn anhygoel, a diolch i aelodau'r panel a'r trefnwyr a hwylusodd y cyfle mawr ei angen hwn ar gyfer digwyddiad dadlau. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle nesaf i gadeirio neu fynychu digwyddiad tebyg unwaith eto yn y dyfodol agos."

DM day panel

Ymunodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu ag ef ar y panel, y Cynghorydd Tessa Hodgson, a'r Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol y Cynghorydd Michelle Bateman. Ynghyd â'r cyn-Gadeirydd y Cynghorydd Pat Davies, y Cynghorydd Joshua Beynon, Hyrwyddwr Cynaliadwyedd (Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol), a'r Cynghorydd Delme Harries, Hyrwyddwr y Gymraeg a Phlant a Phobl Ifanc.

Roedd y bobl ifanc yn awyddus i ofyn eu cwestiynau a chael gwybod mwy am sut mae'r Cyngor yn gweithio gan y Cynghorydd Tudor a'i gydweithwyr.

Roedd rhai cwestiynau anodd i'r aelodau gyda phynciau yn cynnwys cyllidebau ysgolion, diogelwch ysgolion, terfynau cyflymder 20mya, bwlch ariannu'r Cyngor, digartrefedd, yr iaith Gymraeg ac olion traed carbon.

DM chamber

Yn ogystal â chael atebion i'w cwestiynau, cafodd y rhai a gymerodd ran wybod mwy hefyd am sut i gymryd rhan mewn democratiaeth, y Cyngor a'r Cynulliad Ieuenctid a sut y gallant helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

Cofiwch bod yn rhaid i chi gofrestru os ydych chi am bleidleisio mewn etholiadau. Cofrestrwch ar-lein drwy wefan Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd). 

#MaeEichPleidlaisOBwys. Peidiwch â'i golli. #ParatoiIBleidleisio