English icon English
Mei gyda disgyblion Ysgol Eglwyswrw

Ysgolion Sir Benfro yn dathlu eu hardaloedd mewn cyfres newydd o ganeuon yn Gymraeg

Pembrokeshire Schools celebrate their localities with new Welsh-language song series

Mae alawon persain cerddoriaeth Gymraeg yn llenwi’r awyr wrth i gyfres swynol o ganeuon newydd sbon a gyfansoddwyd gan blant ysgolion Sir Benfro gael ei rhyddhau.

Mae’r ymdrech gerddorol gydweithredol, a drefnwyd gan Gyngor Sir Penfro a Menter Iaith Sir Benfro, yn cynnwys Mei Gwynedd, sy’n gyfansoddwr caneuon o fri, a disgyblion talentog dros ben o 46 o ysgolion ledled y rhanbarth.

Dechreuwyd ar y prosiect rhyfeddol hwn fel rhan o ymrwymiad ysgolion Sir Benfro i’r Siarter Iaith, a’r nod yw dathlu ardaloedd a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.

Wrth wraidd y gyfres hon o saith cân swynol y mae’r geiriau ysbrydoledig a luniwyd gan Griw Cymraeg o bob ysgol, ac mae’r caneuon wedi’u hategu gan fideos cerddoriaeth gan y gwneuthurwr ffilmiau dawnus, Nico Dafydd.

Dywedodd y Criw Cymraeg o Ysgol Mair Ddihalog: “Roedd ysgrifennu, ymarfer a pherfformio ar gyfer y fideo yn brofiad bythgofiadwy. Roedd yn gyfle mor unigryw i greu ac ysgrifennu cân gydag artist adnabyddus!”

Ychwanegodd Mei Gwynedd: “Roedd pob un ohonyn nhw mor falch o’u hardal, a dysgais lawer am y gornel hyfryd hon o Gymru! Roedd rhai yn rhugl yn y Gymraeg, ac eraill ag ychydig eiriau, ond mae’n wych gallu gweld cerddoriaeth yn uno plant o gefndiroedd gwahanol.”

Mei ac Ysgol Arberth

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae’r prosiect rhyfeddol hwn wedi rhoi cyfle i’r disgyblion dawnus hyn ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn cyd-destun gwahanol, ac mae’r hyn y maent wedi’i greu yn wirioneddol ryfeddol.

“Mae dathlu’r ardaloedd unigol a’r Sir gyfan mewn cân yn draddodiad gwerthfawr, ac mae’n wych gweld – a chlywed – ei fod yn parhau i ffynnu ymhlith y to ifanc.”

Bu pob ysgol yn dadorchuddio eu caneuon â balchder i’w cyfoedion cyn gwyliau’r haf, a gall pawb eu gwylio ar YouTube.

Mei a Dinbych y Pysgod