Plant Sir Benfro yn gwneud sblash mawr yng Ngala Nofio Plant ag Anableddau Ysgolion Sir Benfro
Pembrokeshire children make a great splash at the Pembrokeshire Schools Disability Swimming Gala
Mae Chwaraeon Sir Benfro wedi bod yn falch iawn o gynnal Gala Nofio Plant ag Anableddau Ysgolion Sir Benfro 2024.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ddydd Mawrth, 30 Ebrill.
Dyma'r unfed flwyddyn ar bymtheg mae'r digwyddiad wedi'i noddi'n hael gan Stena Line.
Cafwyd presenoldeb a chefnogaeth wych yn y digwyddiad, gyda bron i 40 o blant o wyth o ysgolion cynradd ac uwchradd Sir Benfro yn cymryd rhan.
Mae'r gala yn rhoi cyfle gwych i blant ag anableddau arddangos eu sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o arddulliau nofio.
Cymerodd y plant ran mewn deg cystadleuaeth gyda llawer o ragrasys yn amrywio o fflôt â chymorth 9m i ddull broga, dull rhydd a nofio pili pala 25m a 50m.
Cofnodwyd amserau'r nofwyr i gyd a'r gobaith yw y bydd rhai ohonynt yn cael eu henwi i gofrestru ar raglen Talent ID para-nofio Nofio Cymru.
Hoffai Chwaraeon Sir Benfro ddiolch yn arbennig i'r bobl ganlynol am eu cefnogaeth a'u hanogaeth ar y diwrnod.
- John Havard – athro nofio yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun
- Ryan, Sion a Connor – achubwyr bywyd a chynorthwywyr o Ganolfan Hamdden Abergwaun
- Anne a Bob Adams – swyddogion Nofio Cymru
- Saskia Peterson – cydlynydd nofio
- Amy Brumby – Nofio Cymru
- Wyth Llysgennad Ifanc o Ysgol Bro Gwaun
- Gareth Mills Bennett o Chwaraeon Anabledd Cymru a Nick Russell, un o hyfforddwyr datblygu Sir Benfro, a gyflwynodd ill dau y medalau a'r tystysgrifau.
Mae'r trefnwyr unwaith eto yn hynod ddiolchgar i gefnogaeth Stena Line, sef prif noddwr y gala.