Pobl ifanc yn plymio i mewn i brosiect Fy Afon
Young people dive into My River project
Yn ystod gwyliau'r Pasg, cymerodd pobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid The Edge a Gwasanaeth Lles y Fyddin ran mewn prosiect amgylcheddol deuddydd yn Hwlffordd mewn partneriaeth â Phrosiect Cleddau.
Roedd y prosiect 'Fy Afon' yn galluogi pobl ifanc i gysylltu ag Afon Cleddau, dysgu am bwysigrwydd gofalu am afonydd a thrafod beth mae eu hafon yn ei olygu iddyn nhw fel pobl ifanc.
Ar ddechrau'r prosiect, cysylltodd y bobl ifanc ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer y ‘Big River Clean Up’ yn Hwlffordd.
Helpodd y bobl ifanc i lanhau darn o Afon Cleddau y gorllewin sy'n rhedeg wrth Parc Dôl y Bont a Morrisons.
Yn y prynhawn, fe wnaethon nhw fwynhau sesiwn ddifyr a gyflwynwyd gan Ganolfan Darwin yn edrych o dan ficrosgopau ar y bwystfilod bach sy'n byw yn ein hafonydd.
Ar yr ail ddiwrnod bu'r bobl ifanc yn myfyrio ar eu canfyddiadau gan greu stori gyda'r darlunydd Fran Evans.
Creodd y bobl ifanc ddarn o gelf yn adrodd hanes eu hafon a phwysigrwydd gofalu am yr afon.
Enw'r stori yw'r ‘adventures of the trash trio’ a bydd yn cael ei harddangos i'r cyhoedd yn Arddangosfa Gelf 'Fy Afon' yn HaverHub, Stryd y Cei, Hwlffordd ddiwedd mis Mehefin.
Bydd y bobl ifanc yn dod yn ôl at ei gilydd yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai i archwilio'r afon yn Hwlffordd trwy ganŵio i fyny Afon Cleddau y Gorllewin.
Dywedodd Steve Lewis, Uwch Weithiwr Ieuenctid: "Roedd y prosiect hwn yn addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd ein hafonydd a sut maen nhw'n cefnogi bywyd gwyllt, ecosystemau a gweithgareddau hamdden. Roedd yn wych gweld brwdfrydedd y bobl ifanc a'u gweld yn cysylltu â'u hafon.”
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.