Arwydd gorsaf drenau Saundersfoot

Gofyn am adborth trigolion ar wella cynlluniau Teithio Llesol

Residents’ feedback on improving Active Travel plans wanted

Rhannu:

Mae tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Penfro yn gofyn am eich mewnbwn i’r Llwybrau Defnydd Ar y Cyd Teithio Llesol arfaethedig yn Saundersfoot.

Bydd y Llwybr Defnydd Ar y Cyd arfaethedig, a gefnogir trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cysylltu Marina Saundersfoot â Sandy Hill Road. 

Mae’r llwybr yn ffurfio rhan o gynllun ehangach a fydd yn cysylltu Gorsaf Saundersfoot â Dinbych-y-pysgod yn y pen draw.

Mae’r Cynllun yn symud ymlaen mewn dau gam, sef Marina Saundersfoot i Stammers Road (Cam 1) a Stammers Road i Sandy Hill (Cam 2). 

Mae dyluniad manwl Cam 1 yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac mae’r tîm Teithio Llesol yn casglu adborth gwerthfawr ar ddyluniad y cynllun, cynigion ac unrhyw bwyntiau allweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw gan y rheiny sy’n gwneud y defnydd mwyaf o’r ardal.

Mae mwy o fanylion am y cynllun ac arolwg ar gyfer plant ysgol ac un ar gyfer trigolion neu ymwelwyr ar gael trwy MapData Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 22 Medi.

Dywedodd Cynghorydd Sir De Saundersfoot, Chris Williams: “Mae mor bwysig i’r gymuned gael mynediad diogel at holl ardaloedd y pentref. Mae’r cyswllt Teithio Llesol yn gam cadarnhaol ar gyfer lles pobl a sicrhau bod pob rhan o’r pentref yn hygyrch.”

Mae’r cynllun yn cynnig darparu Llwybrau Defnydd Ar y Cyd ar hyd Teras y Bragdy, ac wedyn i fyny Stammers Road.

Mae gwelliannau arfaethedig yn cynnwys ail-alinio’r ffordd gerbydau, lledu’r llwybrau troed i Safonau Llwybrau Defnydd Ar y Cyd, gwella mannau croesi ar y ffordd a chyflwyno croesfannau sebra ar gyffordd y Marina.

Dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack, Cynghorydd Sir Gogledd Saundersfoot: “Bydd trigolion sy’n cerdded ac yn seiclo yn yr ardal yn rheolaidd yn gallu taflu goleuni ar yr hyn y dylai’r cynllun Teithio Llesol ei gynnwys, a byddwn i’n annog cynifer o bobl ag y bo modd i gymryd rhan yn yr arolwg.”