English icon English
Rachel Scott a Kate Clarke, athrawon arweiniol Ysgolion sy'n Parchu Hawliau a Llysgenhadon Gwych, disgyblion Jacob Williams a Tilly Prevel.

Ysgol yn derbyn Gwobr Aur fawreddog UNICEF y DU am yr eildro

School receives prestigious UNICEF UK Gold Award for the second time

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro wedi derbyn gwobr Aur am yr eildro gan raglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF y DU.

UNICEF yw prif sefydliad y byd ym maes gweithio dros blant a’u hawliau.

Rhoddir Gwobr Ysgol sy’n Parchu Hawliau i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant, ac yn annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau plant a phobl eraill yn yr ysgol.

Ysgol Gymunedol Doc Penfro yw’r ysgol gyntaf yn Sir Benfro i dderbyn y Wobr Aur, ac mae’n falch o gael ei chydnabod unwaith eto.

Mae’r ysgol wedi gweithio gydag UNICEF y DU ers 2015. Derbyniodd y dystysgrif Efydd yn 2016, a thystysgrif Arian ac Aur yn 2017.

Yn ddiweddar, ailachredwyd yr ysgol â’r dystysgrif Aur a chynhaliwyd digwyddiad dathlu i nodi’r cyflawniad, ar ôl dychwelyd i’r ysgol y tymor hwn.

Y Wobr Aur yw’r anrhydedd uchaf a roddir gan UNICEF y DU, ac mae’n dangos ymrwymiad dwfn a thrylwyr i hawliau plant ar bob lefel o fywyd yr ysgol. Mae dros 600 o ysgolion ledled Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi derbyn y Wobr Aur.

Dywedodd Michele Thomas, Pennaeth Ysgol Gymunedol Doc Penfro: “Mae hawliau plant yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer yr ysgol, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu hyrwyddo a’u hamddiffyn gan bawb.

“Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau, wrth i ni dderbyn y Wobr Aur am yr eildro. Mae gan ddisgyblion Ysgol Gymunedol Doc Penfro lais gwirioneddol yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol. Mae disgyblion wedi dysgu am fod yn ddinasyddion byd-eang sy’n parchu hawliau, gan sefyll dros hawliau plant yn ein cymuned a ledled y byd.

“Mae’r Wobr yn cydnabod ein cyflawniad wrth roi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wraidd cynllunio, polisïau ac ymarfer yn yr ysgol.”

Llongyfarchwyd yr ysgol gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, ar dderbyn yr anrhydedd bwysig hon.

“Rwy’n siŵr bod disgyblion a staff yr ysgol yn falch dros ben o dderbyn y wobr Aur hon, ac mae’r ffaith ei bod am yr eildro yn gyflawniad arbennig. Mae’n dyst i waith caled cymuned yr ysgol.”

 

Yn y llun mae Mrs Rachel Scott a Mrs Kate Clarke, athrawon arweiniol Ysgolion sy'n Parchu Hawliau a Llysgenhadon Yn y llun mae Mrs Rachel Scott a Mrs Kate Clarke, athrawon arweiniol Ysgolion sy'n Parchu Hawliau a Llysgenhadon Gwych, disgyblion Jacob Williams a Tilly Prevel.Gwych, disgyblion Jacob Williams a Tilly Prevel.

Nodiadau i olygyddion

Mae menter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF y DU wedi’i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys ysgolion mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda bron i 5,000 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig, ac unedau cyfeirio disgyblion ledled yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae ysgolion wedi nodi effaith gadarnhaol ar ymddygiad, perthnasoedd a lles disgyblion wrth wella eu hunan-barch, gan arwain at lai o driwantiaeth a bwlio, a dysgu gwell a chynnydd mewn safonau academaidd.