English icon English

‘Superstars’ Sir Benfro!

Superstars Pembrokeshire!

Mae aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Abergwaun ac aelodau o grŵp aml-chwaraeon iau Tyddewi wedi cymryd rhan yn her Superstars Chwaraeon Sir Benfro!

Roedd yr her wedi’u seilio ar yr hen gyfres deledu ‘Superstars’, a bu dros 40 o gyfranogwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau o saethu â bwa i rwyfo, cwrs ymosod, naid hir, pêl-fasged, criced, rygbi a phêl-droed.

“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn mwynhau eu hunain mewn amrywiaeth mor eang o weithgareddau,” dywedodd Daniel Bellis o Chwaraeon Sir Benfro.

Enillwyr digwyddiad CFfI Abergwaun oedd Ifan ac Alaw, ac enillwyr grŵp aml-chwaraeon Tyddewi oedd Olivia a Fin. Rhoddwyd crys T i bawb a fu’n cymryd rhan, a chyflwynwyd medalau i’r enillwyr, hefyd.

Yn y llun mae'r tîm o CFfI Abergwaun.