English icon English
Bird flu - Ffliw Adar

Swyddogion y Cyngor yn cynnal ymweliadau mewn ymateb i ddigwyddiad Ffliw Adar

Council officers conduct visits in response to Avian Influenza incident

Yn dilyn nodi Ffliw Adar Pathogenig Iawn mewn dofednod ar safle ger y Garn yn Sir Benfro, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi datgan Parth Gwarchod Ffliw a Pharth Gwyliadwriaeth ehangach o amgylch y Safle Heintiedig.

Bydd swyddogion o Is-adran Diogelu'r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Penfro yn ymweld â chyfeiriadau o fewn y Parth Gwarchod 3km o amgylch y safle, i nodi lleoliadau lle mae dofednod a/neu adar caeth eraill yn cael eu cadw ac i ddarparu gwybodaeth am gyfyngiadau sy'n berthnasol ar hyn o bryd i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu.

Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio i gefnogi cydweithwyr milfeddygol o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion sy'n rheoli'r ymateb i'r digwyddiad.

Mae map sy'n dangos maint y parthau a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru:

Mae'n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch ar waith.

Cofrestr Dofednod Genedlaethol

O 1 Hydref, 2024 – mae gofyniad i bob ceidwad adar, waeth beth yw maint yr haid, gofrestru eu hadar yn swyddogol.

Pa adar sy'n cael eu cwmpasu gan y newid hwn?

Mae'r rheolau newydd yn cwmpasu perchnogion heidiau iard gefn, adar ysglyfaethus a cholomennod, ond nid ydynt yn effeithio ar adar anwes mewn cawell (ac eithrio unrhyw rywogaethau dofednod) sy'n cael eu cadw'n gyfan gwbl mewn annedd domestig, fel parot, caneri neu fwji, nad ydynt byth yn gadael yr eiddo heblaw i ymweld â milfeddyg neu gyfnod byrdymor arall.

Trwy gofrestru eu hadar, bydd ceidwaid yn sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau pwysig sy'n berthnasol iddynt, megis ar unrhyw achosion o glefyd adar lleol a gwybodaeth am reolau bioddiogelwch i helpu i amddiffyn eu heidiau.

Bydd angen i geidwaid adar ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys eu manylion cyswllt, y lleoliad lle mae adar yn cael eu cadw a manylion yr adar (rhywogaeth, nifer ac am yr hyn maent yn cael eu cadw ar ei gyfer). 

https://www.gov.uk/guidance/register-as-a-keeper-of-less-than-50-poultry-or-other-captive-birds#how-to-register

Cyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:

  • Dylai pob ceidwad adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd er enghraifft mwy o farwolaethau, problemau anadlu a gostyngiadau mewn cymeriant bwyd neu ddŵr, neu gynhyrchu wyau.
  • Ymgynghorwch â'ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw'ch adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Cymru ar 0300 303 8268. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad i glefyd gan filfeddygon APHA.
  • Rhaid i chi gymhwyso mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu ddeunydd gwely a allai fod wedi'u halogi gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle. Mae'r manylion llawn a'r rhestr wirio ar gael yma: bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn adar caeth.

Mae asiantaethau iechyd y DU yn cynghori bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac mae asiantaethau safonau bwyd y DU yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg isel iawn i ddiogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

Gall aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn cadw adar helpu trwy roi gwybod am adar gwyllt marw. Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill fel gwylanod neu adar ysglyfaethus dylech roi gwybod amdanynt i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77

Gall DEFRA gasglu'r rhain i'w harchwilio a gwyliadwriaeth ffliw adar, yn dibynnu ar y rhywogaeth a'r lleoliad. Mae'n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw.