English icon English
Waverley Ilfracombe Dydd Sadwrn 3 Mehefin 2023 02

Dinbych-y-pysgod yn paratoi i groesawu hen stemar olwyn

Tenby set to welcome nostalgic paddle steamer

Wrth edrych ymlaen at ymweliad Stemar Olwyn Waverley â Harbwr Dinbych-y-pysgod yr wythnos yma, atgoffir y cyhoedd y bydd parcio’n gyfyngedig.

Yr haf hwn, bydd yr Waverley yn ymweld â Sir Benfro ar 17 a 18 Mehefin, ac mae teithiau hwylio o amgylch yr arfordir deheuol, Ynys Bŷr, Penrhyn St Govan ac Ynysoedd Sgogwm, Sgomer a Ramsey wedi’u cynllunio.

Bydd coetsys yn casglu a gollwng teithwyr sy’n mynd ar daith hwylio’r Waverley tuag at Aberdaugleddau o Faes Parcio’r Traeth Gogleddol, sef yr ardal barcio a argymhellir.

Ni fydd modd parcio yn yr Harbwr na Maes Parcio’r Traeth Deheuol, gan y bydd y rhain ar gau ar gyfer Gŵyl Fwyd Dinbych-y-Pysgod.

Mae’r Waverley yn dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod ar ôl mwy na 30 mlynedd a bydd yn cyrraedd am 6pm ar 17 Mehefin.

Bydd y stemar olwyn o 1947 yn aros ochr yn ochr am gyfnod cyfyngedig, gydag amser cyrraedd ac ymadael bras o 45 munud, os hoffech groesawu’r llong i’r lan.

Bydd digon o olygfannau i weld yr Waverley yn Ninbych-y-pysgod, i ffwrdd oddi wrth yr Harbwr, fel North Walk, The Norton a’r Esplanade a’r Traeth Deheuol wrth iddi adael i fynd i Aberdaugleddau.

Bydd 600 o deithwyr yn mynd ar fwrdd y stemar olwyn fordeithiol olaf yn y byd, ar ôl i nifer debyg ddod oddi arni yn Ninbych-y-pysgod.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae pobl yn Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod yn siŵr o groesawu’r Waverley yn ôl i Sir Benfro.

“Trwy barcio’n gyfrifol, mae teithwyr a’r rhai sy’n gobeithio cael cipolwg o’r llong eiconig hon yn siŵr o gael profiad pleserus.”