English icon English
Ysgol Bro Penfro

Trosglwyddiad Llwyddiannus Ysgol Gymraeg Bro Penfro

Successful Handover of Ysgol Gymraeg Bro Penfro

Mae’r broses o drosglwyddo Ysgol Gymraeg Bro Penfro ym Mhenfro i awennau’r Awdurdod Lleol wedi'i chwblhau, gyda Gareth Rees, Rheolwr Prosiect Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd yn trosglwyddo'r allweddi i'r ysgol newydd i'r Pennaeth Gweithredol Dafydd Hughes ar yr 8fed o Orffennaf.

Yn dilyn dyfarnu'r cytundeb ar gyfer dylunio ac adeiladu'r ysgol newydd, dechreuodd Morgan Sindall ar y gwaith ar y safle ym mis Mawrth 2023.  Dywedodd Rob Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Morgan Sindall ei bod wedi bod yn fraint cael gweithio ar brosiect mor nodedig, gan mai’r ysgol hon yw'r gyntaf yn Sir Benfro i gael ei darparu gan fodloni gofynion llym Carbon Sero Net.

"Roedd yn wych bod yn rhan o drosglwyddo'r prosiect yr wythnos hon, mae'n ysgol wych mewn lleoliad mor hardd. Rydym yn falch iawn o'r prosiect ac yn diolch i dîm Cyngor Sir Penfro am y cyfle i gyflawni prosiect mor wych ac am ddull cydweithredol mor bleserus o ddylunio a darparu ysgol Carbon Sero Net gynaliadwy gyda chyfleusterau gwych. Roeddem yn teimlo ein bod wedi ffurfio un tîm. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran”.

Ariannwyd prosiect adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Penfro gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a Chyngor Sir Penfro, a bydd yr ysgol  yn agor ym mis Medi 2024.  Bydd yr ysgol yn darparu gofal diwrnod llawn ar gyfer hyd at 36 o blant 0-11 oed, meithrinfa sydd yn cynnwys lle i 30, a lle i hyd at 210 o ddisgyblion (Derbyn i Flwyddyn 6).  Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet ar faterion Addysg a'r Iaith Gymraeg, ei fod wrth ei fodd bod y prosiect pwysig yma wedi'i gwblhau.

"Mae'r prosiect yma yn garreg filltir arwyddocaol wrth i'r Cyngor fynd ati i gyflawni amcanion y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP), ac rwy'n ddiolchgar iawn bod gwaith di flino’r swyddogion a’r contractwyr wedi arwain at greu ysgol newydd a adeiladwyd mewn da bryd ac o fewn terfynau’r gyllideb a ddyrannwyd. Ymfalchiaf yn y ffaith bydd yr ysgol mewn sefyllfa i dderbyn disgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi 2024.  Fel yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Addysg a'r Gymraeg, edrychaf ymlaen at ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn ystod yr hydref a gweld yr ysgol ar waith".

Wrth dderbyn yr allweddi i'r ysgol newydd, dywedodd Mr Hughes fod Morgan Sindall, wedi cydweithio ochr yn ochr â thîm prosiect Cyngor Sir Penfro er mwyn datblygu cyfleuster addysgol rhagorol gan ddechrau pennod newydd cyffrous ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro.

"Rwy'n llwyr argyhoeddedig y bydd y plant a fydd yn mynychu'r ysgol hon yn elwa'n fawr o’r amgylchedd dysgu sydd yn gweddu’n llwyr ar gyfer cynnig addysg o’r radd flaenaf yn yr 21ain ganrif. Mae'r plant a fydd yn trosglwyddo o'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gelli Aur / Ysgol Golden Grove yn hynod o gyffrous eu bod nhw’n mynd i gael cyfle i barhau â'u haddysg yn Ysgol Gymraeg Bro Penfro.  Mae'r plant hynny wedi bod yn ymwelwyr cyson â'r safle yn ystod y cyfnod adeiladu, ac ynghyd â staff, maent wedi derbyn croeso cynnes gan y contractwyr ar bob adeg".

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Rwyf wrth fy modd, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, y bydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd hon yn agor ym mis Medi. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae hyn yn gyfle gwych i fwy o ddysgwyr gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg, gan helpu i gefnogi ei thwf."

Cynhelir noson agored yn yr ysgol ddydd Llun 15 Gorffennaf am 4.30pm, a bydd y noson yn cynnig cyfle i'r gymuned leol ymweld â'r ysgol, ac i ddarpar rieni a'u plant weld y cyfleusterau ardderchog.

Nodiadau i olygyddion

Egluryn: Cynrychiolwyr o Gwmni Morgan Sindall a tîm prosiect Cyngor Sir Benfro, gyda’r Pennaeth Gweithredol, Mr Dafydd Hughes a’r Cyng. Aaron Carey, Cadeirydd Corff Llywodraethol Dros Dro Ysgol Gymraeg Bro Penfro, ar adeg trosglwyddo’r ysgol o’r contractwr i’r Cyngor.