Datblygiad Glan Cei’r Gorllewin yn cyrraedd y copa
Western Quayside development reaches the top
Cyrhaeddwyd carreg filltir datblygu allweddol y mis hwn gyda seremoni ‘gosod y copa' a gynhaliwyd yng Nglan Cei'r Gorllewin, prosiect gwerth miliynau i adfywio Hwlffordd.
Mae John Weaver (Contractors) Ltd bellach wedi cyrraedd a gorffen pwynt uchaf y datblygiad blaenllaw ac mae gwaith ar y trywydd iawn i gael ei drosglwyddo ar gyfer gwneud y gwaith mewnol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae hen siop adrannol Ocky White wedi cael ei adnewyddu a'i ymestyn i greu datblygiad modern a chwaethus tri llawr sy'n gwbl hygyrch a fydd yn cynnwys emporiwm bwyd amlddefnyddwyr ynghyd â bwyty, bar a theras ar y to. Ymgasglodd uwch aelodau'r Cyngor, swyddogion a chontractwyr ar deras y to i ddathlu ‘gosod y copa' ar ôl mynd ar daith o amgylch y safle.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor: “Ar y cyd â mentrau eraill sy'n mynd ymlaen, rwy'n ffyddiog iawn y bydd canol tref Hwlffordd yn dod yn lleoliad masnachol a phreswyl ffyniannus o ddewis, gan greu cyrchfan ac ymdeimlad penodol o le.
“Mae cynllun Cyngor Sir Penfro yn ymgorffori gwelliannau i'r parth cyhoeddus gan gynnwys sgwâr glan y dŵr deniadol gyda lle ar gyfer digwyddiadau a allai ymestyn ei ddefnydd i fin nos. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf, sy'n newyddion cyffrous iawn i Hwlffordd, Tref Sirol Sir Benfro.”
“Mae Glan Cei’r Gorllewin yn rhan annatod o'n gweledigaeth i adfywio canol tref Hwlffordd ac mae'n wych gweld y prosiect adfywio uchelgeisiol hwn yn symud ymlaen." meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd David Simpson.
Dywedodd Ceri Best, Cyfarwyddwr Masnachol John Weaver Contractors: “Mae'n fraint ac yn anrhydedd i ni fod yn Brif Gontractwr Dylunio ac Adeiladu ar ailddatblygu'r hen siop hanesyddol Ocky Whites yng nghanol Hwlffordd.
“Mae'r bartneriaeth gydweithredol a ddatblygwyd gyda Chyngor Sir Penfro a'u timau ymgynghorol wedi sicrhau bod y cyfyngiadau a'r heriau a wynebwyd wedi cael eu goresgyn i ganiatáu i'r gwaith barhau ar yr un pryd ac felly'n lliniaru oedi pellach i'r rhaglen gontractau. Rydym yn edrych ymlaen at gyfri’r dyddiau tan ein bod wedi cwblhau’r gwaith ymarferol a chyflawni prosiect blaenllaw o safon ar gyfer Cyngor Sir Penfro."
Ychwanegodd Anthony Hayward, Rheolwr Tîm Adeiladu yn CSP: “Mae'r seremoni ‘gosod y copa’ yn garreg filltir allweddol yn yr hyn sydd wedi bod yn brosiect hynod heriol, rhoddodd hefyd gyfle i ganmol tîm cyfan y prosiect sydd wedi cydweithio i gyflawni'r datblygiad trawsnewidiol newydd hwn."