Ymarfer maes awyr yn profi ymateb gwasanaethau brys
Airport exercise tests emergency services response
Fe wnaeth ymarfer realistig brofi'r ymateb brys i ddigwyddiad mawr ym Maes Awyr Hwlffordd fis diwethaf.
Gan ddefnyddio senario o awyren ysgafn yn gwrthdaro â cherbyd wrth nesáu at y rhedfa, archwiliodd yr ymarfer weithdrefnau cydweithio a chydlynu rhwng y maes awyr a gwasanaethau golau glas ar gyfer argyfyngau awyrennau.
Rhoddodd yr ymarfer brofiad amhrisiadwy i'r cyfranogwyr o ymateb i sefyllfa a oedd yn cynnwys golygfeydd, synau ac arogleuon realistig.
Mewn achos annhebygol y byddai angen i griwiau ymateb i argyfwng go iawn yn y maes awyr, bydd pawb yn y sefyllfa orau i ymateb yn effeithiol.
Mae ymarferion o'r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau ymateb gydlynus i ddigwyddiadau mawr ar y maes awyr ac o'i amgylch.
Efelychwyd yr ymarfer ym maes hyfforddi tân y maes awyr a'i fwriad oedd gwella sgiliau ymatebwyr brys wrth reoli digwyddiad mawr.
Yr amcanion oedd archwilio sut yr oedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Sant Ioan Cymru, Diffoddwyr Tân Maes Awyr Hwlffordd a Fly Wales yn cydweithio.
Roedd yr ymarfer yn cynnwys dau o 'anafusion' yn yr awyren ysgafn a thri yn y cerbyd. Gwirfoddolodd gweithredwyr canolfan y maes awyr fel anafusion y tu mewn i'r awyren a'r cerbyd.
Fe wnaeth cyfanswm o bedwar cerbyd tân, o Abergwaun, Aberdaugleddau ac Arberth, gymryd rhan yn ogystal â dau ambiwlans.
"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac mae ymarferion fel hyn yn rhoi'r cyfle i sawl asiantaeth a'r maes awyr brofi eu cynlluniau ymateb a chael profiadau dysgu allweddol er mwyn ymateb i argyfwng yn cynnwys awyren," meddai Phil Davies, sy'n Gynorthwy-ydd Maes Awyr.
"Mae angen yr ymarfer fel rhan o ardystiad y maes awyr drwy’r Awdurdod Hedfan Sifil, ond mae hefyd yn arf hynod werthfawr o ran parodrwydd ar gyfer argyfwng a chydweithio aml-asiantaeth."
Bydd gwersi a ddysgwyd o'r ymarfer yn cael eu defnyddio i ddiweddaru cynlluniau ymateb ac atgyfnerthu parodrwydd i ymateb mewn argyfwng ar y cyd ar bob lefel.